Yr Athro Dean Williams yn dylanwadu ar Ganllawiau NICE
Mae clefyd diabetig y traed yn broblem gynyddol ac yn faich sylweddol ar ddarpariaeth gofal iechyd ledled y byd. Mae briwiau traed yn gallu arwain at gymhlethdodau difrifol, yn cynnwys colli coesau a thraed, sydd â goblygiadau personol ac economaidd-gymdeithasol difrifol. Amcangyfrifwyd bod y gost o ofal dros glefyd diabetig y traed yn Lloegr yn 2010–2011 yn £580m.
Yn 2012, fel rhan o welliant parhaus i wasanaethau clefyd diabetig y traed, cyhoeddodd Adran Llawdriniaeth Fasgwlar Ysbyty Gwynedd a'r Ysgol Gwyddorau Meddygol, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, bapur mewn cyfnodolyn rhyngwladol ar effaith y gwasanaeth.
Dangosodd y papur bod y gwasanaeth wedi gostwng nifer yr achosion o orfod torri coesau a thraed i raddau oedd yn gymharol â'r gorau yn y byd.
Yn 2014, datblygodd yr adran wasanaeth gwella clwyfau a dechrau gwasanaeth nyrs allgymorth arbenigol newydd i ategu'r ddarpariaeth i glefyd diabetig y traed.
Nod y dull amlddisgyblaethol hwn o ddarparu gofal trin briwiau ar y coesau a’r traed yw hwyluso parhad y ddarpariaeth o'r ysbyty ac yn y gymuned ac mae'n enghraifft ragorol o ofal iechyd darbodus fel yr hyrwyddir gan Lywodraeth Cymru.
Yn 2015, cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ganllawiau newydd ar broblemau’n deillio o glefyd diabetig y traed ac maent yn cyfeirio ddwywaith at bapur ÑÇÖÞÉ«°É ar fframwaith gwasanaethau i’r clefyd a'r cynnydd mewn gofal.
Ymhellach, yn 2015, dangosodd astudiaeth gan y Ganolfan Ailsefydlu Genedlaethol yn Ysbyty Rookwood, Caerdydd mai ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr oedd y nifer leiaf yng Nghymru o achosion o dorri coesau a thraed yn deillio o ddiabetes, a chan ÑÇÖÞÉ«°É oedd y cyfraddau isaf.
Mae darpariaeth BIPBC ym maes diabetes a chlefyd y coesau a'r traed wedi derbyn cydnabyddiaeth am fod gyda'r gorau yn y byd ac yn enghraifft o arfer gorau, ac mae'n dangos bod staff o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a'r Bwrdd Iechyd bellach ar flaen y gad mewn meddyginiaeth fodern ac yn dylanwadu ar arferion yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Cafodd hyn ei gydnabod yn ddiweddar pan gyhoeddwyd bod y Brifysgol ar restr fer Gwobrau Effaith ac Arloesi 2015, sy’n cydnabod ymchwil sydd wedi bod o fudd i gymunedau'n lleol ac yn fyd-eang.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Rhagfyr 2015