Yr Arglwydd Mostyn yn ymweld 芒 labordai ymchwil cancr ac elusen yn ymrwymo i gyfrannu cyllid o 拢400,000
Mae'r Arglwydd Mostyn wedi cyfarfod ag ymchwilwyr, gwyddonwyr a chlinigwyr blaenllaw yng Ngogledd Cymru sy'n arloesi 芒 datblygiadau ym maes ymchwil a thriniaeth cancr.
Ymwelodd Gregory Mostyn 芒 Sefydliad Ymchwil Cancr y Gogledd Orllewin yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol 亚洲色吧 yr wythnos hon a chyfarfod 芒 Chadeirydd y Sefydliad Dr Edgar Hartsuiker, a'i tywysodd o gwmpas y labordai ymchwil sydd 芒 chyfleusterau o'r radd flaenaf.
Mae'r Arglwydd 31 mlwydd oed yn noddwr anrhydeddus elusen Ymchwil Cancr y Gogledd Orllewin. Daw ei ymweliad wrth i'r elusen gyhoeddi cynnydd yn ei hymrwymiad i gyllido gwerth dros 拢400,000 o ymchwil cancr yn y Sefydliad dros y ddwy flynedd nesaf.
Yn ystod ei ymwe"Mae fy nheulu a minnau wedi bod yn cefnogi elusennau lleol a chenedlaethol ers sefydlu鈥檙 yst芒d. Mae鈥檔 bwysig ein bod yn rhoi rhywbeth yn 么l i'r cymunedau yr ydym yn rhan ohonynt.
"Rydw i'n ffodus i allu buddsoddi rhywfaint o amser a chymorth i gefnogi'r frwydr yn erbyn cancr. Mae'n wirionedd caled bellach y caiff y rhan fwyaf ohonom ein heffeithio arnom gan gancr ar ryw bwynt yn ein bywydau, a dyna pam mae ymchwil mor bwysig.
"Roedd yn ddiddorol iawn cael fy nhywys o gwmpas y labordai ymchwil cancr yma ym Mangor a gweld drosof fy hun sut mae cyllido gan Ymchwil Cancr y Gogledd Orllewin yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo ymchwil i'r clefyd hwn sy鈥檔 newid bywydau. Mae wedi agor fy llygaid i'r gost fesul diwrnod o redeg mainc ymchwil ac wedi atgyfnerthu fy ffydd ym mhwysigrwydd cyllido a chefnogaeth drwy godi arian.
"Edrychaf ymlaen at gryfhau fy mherthynas gydag Ymchwil Cancr y Gogledd Orllewin yn y misoedd nesaf a chefnogi cenhadaeth a gweithgareddau'r sefydliad ym mha bynnag ffordd y gallaf."
Cafodd Sefydliad Ymchwil Cancr y Gogledd Orllewin ei sefydlu yn 2004, gyda chefnogaeth gan Gronfa Ymchwil Cancr y Gogledd Orllewin, Prifysgol 亚洲色吧 a Llywodraeth Cymru.
Ymchwil Cancr y Gogledd Orllewin yw鈥檙 cyllidwr annibynnol mwyaf i ymchwil cancr yng Ngogledd Cymru, a hyd yma mae wedi cyllido gwerth oddeutu 拢2.5 miliwn o ymchwil ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Mae hynny'n cynnwys cefnogaeth i ymchwilwyr a myfyrwyr PhD, yn ogystal 芒 chreu cymrodoriaethau ymchwil a helpu i ddenu rhai o ymchwilwyr cancr mwyaf blaenllaw'r byd i Fangor.
Dywedodd Nigel Lanceley, cadeirydd Ymchwil Cancr y Gogledd Orllewin: "Mae'n anrhydedd gennym groesawu'r Arglwydd Mostyn i Sefydliad Ymchwil Cancr y Gogledd Orllewin ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Mae鈥檔 wych gweld bod ganddo ddiddordeb byw yn yr ymchwil rydym yn ei chyllido, yn ogystal 芒'i gefnogaeth i'n hymdrechion i godi arian.
"Ni yw'r cyllidwr annibynnol mwyaf i ymchwil cancr yng Ngogledd Cymru ac mae hynny diolch yn rhannol i'n rhwydwaith o bwyllgorau codi arian ar draws y wlad sy'n codi cannoedd o filoedd o bunnoedd i ni bob blwyddyn. Roedd yn bleser gennym groesawu Joan Davies o'n pwyllgor yn Nhreffynnon, a gyflwynodd yr Arglwydd Mostyn i'n helusen yn y lle cyntaf.
"Edrychwn ymlaen at weithio ymhellach gyda'r Arglwydd Mostyn yn ei waith fel noddwr a gyda'i gymorth gallwn godi proffil y gwaith a wnawn ac annog hyd yn oed mwy o gyllido i ymchwil cancr sy'n achub bywydau."
Ychwanegodd Dr Edgar Hartsuiker: "Nid oes amheuaeth mai cefnogaeth barhaus i'n helusen sydd wedi gwneud ein hymchwil arloesol yn bosib. Ac rydym yn ddiolchgar i bawb sy'n codi arian ac yn cyfrannu."
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2016