Ymchwil ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn ymddangos ar HORIZON
Bydd project ymchwil sy’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, gyda chyfraniad hanfodol aelodau cymunedau ar draws gogledd Cymru, yn derbyn sylw rhifyn nesaf prif gyfres ddogfen y BBC, Horizon ().
Mae Horizon, prif raglen gwyddoniaeth BBC 2, yn ymchwilio cyfnod newydd ym maes ymchwil i glefyd Alzheimer's sydd yn dod â gobaith i filoedd o bobol o amgylch y byd sy’n cael eu heffeithio â’r cyflwr. Yn ogystal ag edrych ar ddatblygiadau meddygol wrth adnabod a thrin cleifion gyda dementia, mae’r rhaglen hefyd yn edrych ar y newidiadau mewn arferion byw a all atal datblygiad y clefyd.
Bu gwneuthurwyr y rhaglen ym Mangor i ffilmio astudiaeth-achos o hap-dreial sydd yn cael ei chynnal ledled y DU er mwyn cynorthwyo'r rhai hynny sydd yng nghyfnod cynnar dementia i ddatblygu strategaethau er mwyn cyflawni tasgau dydd i ddydd. Drwy hyn, daw budd deublyg, sef hwyluso’u bywydau, a hefyd ailgynnau'r rhannau o’r ymennydd sydd yn ymwneud â chynllunio a threfnu.
Tra yn y gogledd bu’r rhaglen yn ffilmio therapydd y project, Sue Evans, sydd yn cael ei chyflogi i weithio ar y broject o fewn y GIG gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn gweithio gydag un o gyfranogwyr y project ar yr amcanion yr oedd ef ei hun wedi eu gosod ar ei gyfer.
Mae’r project a arweinir gan yr Athro Linda Clare (bellach ym Mhrifysgol Exeter, gynt o Ysgol Seicoleg, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É), hefyd yn cynnwys arbenigwyr o Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ac - Uned Treialon Clinigol ÑÇÖÞÉ«°É, yn ogystal â’r unigolion ledled y rhanbarth sy’n cymryd rhan ac sydd yn y cyfnod cynnar o ddementia.
Bu i’r rhai a fu’n cyfrannu adnabod amrediad eang o nodau i weithio tuag atynt, o ddefnyddio ffôn symudol wrth fod allan yn siopa, at ddod o hyd i eitemau o amgylch y cartref. Wrth osod nodau oedd yn golygu rhywbeth iddynt, roeddynt yn arddangos sawl cymhelliad, gan gynnwys yr awydd i fod yn fwy annibynnol, lleihau straen, a rhoi sicrwydd i eraill. Mae’r astudiaeth, a gyllidir gan y National Institute for Health Research, yn parhau, gyda disgwyl canlyniadau’r astudiaeth ymhen blwyddyn. Dangosodd astudiaeth beilot yng Ngogledd Cymru, a gyllidwyd gan Gymdeithas Alzheimer’s, bod nifer o bobol efo dementia cynnar yn medru cyflawni’r nodau gan ddefnyddio’r ymdriniaeth yma, a elwir yn ‘adferiad gwybyddol’.
Mae’r Unedau sy’n cyfrannu at yr ymchwil hefyd yn cyfrannu at Sefydliad ÑÇÖÞÉ«°É dros Ymchwil Iechyd a Meddygol â lansiwyd yn ddiweddar yng Ngholeg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2016