Ymchwil Food Dudes Prifysgol 亚洲色吧 i gael mwy o blant i gymryd prydau ysgol iach
Mae rhaglen arloesol i newid ymddygiad, a ddatblygwyd ym Mhrifysgol 亚洲色吧, i ddod yn rhan o gynllun mawr gan Adran Addysg y DU i gael mwy o blant ysgolion cynradd i gymryd prydau ysgol iach.
Menter gymdeithasol a ddeilliodd o Brifysgol 亚洲色吧 yw ac mae'n darparu rhaglenni sy'n helpu plant i ddod i hoffi bwyta ffrwythau a llysiau, a thrwy hynny hybu bwyta'n iach ac atal gordewdra ymysg plant. Maent wedi cael eu dewis fel rhan o gonsortiwm i ddarparu Cynllun Bwyd Ysgol i Adran Addysg y DU er mwyn cynyddu nifer y plant sy'n cymryd prydau ysgol iach mewn ysgolion cynradd yn Ne Ddwyrain, De Orllewin a Dwyrain Lloegr.
Mae rhaglen newid ymddygiad y Food Dudes wedi bod yn hynod lwyddiannus yn gwella deiet plant yng ngwledydd Prydain, Iwerddon, Yr Eidal a'r Unol Daleithiau. Dyma'r unig raglen ym Mhrydain sydd wedi llwyddo i achosi newidiadau mawr a pharhaol yn y ffordd mae plant yn bwyta.
Bydd fformiwla lwyddiannus y Food Dudes yn awr yn cefnogi Cynllun Bwyd Ysgolion y Llywodraeth a helpu i sicrhau ei lwyddiant fel rhan o'r consortiwm gyda'r Children's Food Trust.
Cyhoeddodd y Cynllun Bwyd Ysgolion ganlyniadau adolygiad o fwyd ysgolion, a gomisiynwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg. Mae'n cynnwys 16 o gamau gweithredu penodol gyda'r nod o wella ansawdd prydau ysgol a chael mwy i'w cymryd; meithrin diddordeb mewn bwyd ym mhob ysgol; ac ennyn diddordeb plant mewn bwyd da a choginio fel y gallant gael bywydau iach gydol eu hoes.
Dywedodd Dr John Parkinson, Pennaeth yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol 亚洲色吧:
"Rydym yn hynod falch o ddeall bod ymchwil a ddatblygwyd yn Ysgol Seicoleg flaenllaw Prifysgol 亚洲色吧 yn cael ei defnyddio i beri newidiadau real a chadarnhaol ym mywydau pobol ifanc. Wrth wraidd pob ymchwil brifysgol mae awydd i ddarparu gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd o fantais i'n cymdeithas gyfan. Rydym yn edrych ymlaen at ddilyn llwyddiant y project yma yn y dyfodol."
Meddai'r Athro Fergus Lowe, Cadeirydd Food Dudes a chyn academydd o Brifysgol 亚洲色吧: "Bydd ennill y tendr yma gyda'n partneriaid yn ein galluogi i fynd 芒 rhaglen y Food Dudes i ranbarthau newydd o wledydd Prydain. Rydym yn gwybod bod ein rhaglen bwyta'n iach, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn rhoi canlyniadau gwirioneddol dda i blant a rhieni plant ysgolion cynradd. Rydym yn hyderus y bydd y gweithgaredd sydd ar y gweill yn cael effaith a dylanwad o bwys."
Meddai Prif Weithredwr y Children's Food Trust, Linda Cregan, wrth s么n am y bartneriaeth gyda Food Dudes:
"Bwriad cynllun bwyta'r Food Dudes yw gwneud bwyta bwyd da - yn arbennig llysiau a ffrwythau - yn hwyl fawr hefyd. Drwy weithio gydag ysgolion, arlwywyr a rhieni maent wedi datblygu profiad a fydd yn gwneud gwelliannau i arferion bwyta plant. Rydym yn edrych ymlaen yn awr at weithio gyda Food Dudes ac Elygra Marketing i wella profiad prydau ysgol mewn ysgolion ledled Lloegr fel rhan o Gynllun Bwyd Ysgol yr Adran Addysg."
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2014