Ymarfer ynddo鈥檌 hun ddim yn ddigon i ferched golli pwysau
Mae ymchwil newydd o Brifysgol 亚洲色吧 wedi dangos nad yw ymarfer corff ynddo鈥檌 hun yn arwain at i ferched golli pwysau.
Yn aml mae pobl yn dechrau ar raglen ymarfer corff gyda鈥檙 bwriad o golli pwysau, ond weithiau鈥檔 teimlo鈥檔 rhwystredig pan nad ydynt yn colli pwysau fel yr oeddynt yn ei ddisgwyl.
Cynlluniodd Dr Hans-Peter Kubis yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ddarn o ymchwil ddiduedd i weld a yw merched yn colli pwysau drwy ymarfer corff yn unig.
Fel yr esbonia Dr Kubis:
鈥淒angosodd ein hymchwil nad yw ceisio colli pwysau drwy ymarfer corff yn unig yn ffordd effeithiol o golli pwysau i ferched, boed hwy鈥檔 fain neu鈥檔 rhy drwm.
Mae ein system gorfforol yn ei rheoli ei hun mor effeithiol, fel ei bod yn canfod ffordd i wneud iawn am ddiffyg egni ar 么l ymarfer. P鈥檜n a fyddant yn ymwybodol o hynny ai peidio, gall rhywun sydd wedi gwneud mwy o ymarfer corfforol brofi cynnydd yn eu harchwaeth am fwyd o ganlyniad, ac mae hyn yn ei gwneud yn anodd iddynt gyrraedd eu hamcanion.鈥
Ond ni ddylai merched sydd eisiau colli pwysau roi鈥檙 gorau i鈥檞 cynlluniau ymarfer corff.
Ychwanegodd Dr Kubis:
鈥淭ydi hyn ddim yn golygu nad ydy ymarfer o gymorth. Yn wir, mae鈥檔 glir bod manteision iechyd enfawr yn deillio o ymarfer. I fod yn effeithiol, dylai ymarfer corff i golli pwysau gael ei ddefnyddio fel rhan o newid eich ffordd o fyw er mwyn colli pwysau, yn cynnwys ymarfer a diet.
Gall gweld dim newid ar y glorian fod yn ddigon i rai roi鈥檙 gorau i ymarfer, heb sylweddoli eu bod wedi gwella eu corff drwy gynyddu mas eu cyhyrau.
Dylai cyfleusterau ymarfer, fel canolfannau hamdden, fuddsoddi mewn offer sy鈥檔 mesur cyfansoddiad y corff,鈥 meddai.
Nid yw鈥檙 cwestiwn a ydym yn medru colli pwysau drwy ymarfer yn unig yn un hawdd i鈥檞 ateb. Mewn ymdrech i ganfod pam fod ymchwil yn y gorffennol wedi dangos ystod o ganlyniadau, cynlluniodd Dr Kubis ymchwil a fyddai鈥檔 lleihau tuedd yn y canlyniadau.
Roedd y gr诺p ymchwil wedi cuddio pwrpas yr ymchwil rhag y rhai a oedd yn cymryd rhan, gan ddefnyddio rhesymau ffug yn eu lle. Yn ogystal, ni ddefnyddiwyd merched oedd wedi datgan bwriad i golli pwysau, oherwydd y posibilrwydd y byddent yn lleihau eu diet yn ystod y cyfnod.
Bu鈥檙 cyfranogwyr yn mynd i ddosbarthiadau ymarfer, lle gwnaethant ymarferion hyfforddiant cylchol dair gwaith yr wythnos mewn dwy astudiaeth hyfforddi dros 4 ac 8 wythnos. Yn y dosbarthiadau roeddynt yn dilyn ymarferion hyfforddiant cylchol. Mesurodd yr ymchwilwyr gyfansoddiad eu corff a chymerwyd samplau gwaed er mwyn dadansoddi hormonau archwaeth sy鈥檔 medru effeithio ar archwaeth a鈥檙 bwyd sy鈥檔 cael ei fwyta. Fe wnaethant ddarganfod na wnaeth merched main a gordew golli pwysau naill ai ar 么l 4 neu ar 么l 8 wythnos o hyfforddiant ymarfer. Fodd bynnag cynyddodd mas cyhyrau merched main. Yn ogystal, dangosodd y mesuriadau hormonau archwaeth y gall mai hormonau archwaeth penodol yw鈥檙 eglurhad pam fod rhai pobol yn ennill neu golli pwysau wedi hyfforddiant ymarfer.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017