Tynnu sylw at ymchwil Canser ym Mhrifysgol 亚洲色吧
Bydd digwyddiad ym Mhrifysgol 亚洲色吧 ar 4 Chwefror 2020 er mwyn nodi Diwrnod Canser y Byd.
Cynhelir y digwyddiad, sydd yn rhad ac am ddim, yn Ystafell Ddarlithio 2 yn Pontio, rhwng 6.00pm ac 8.15pm. Bydd yn tynnu sylw at yr ymchwil canser sy'n cael ei gynnal ym Mhrifysgol 亚洲色吧, gan nodi 20 mlynedd ers sefydlu Diwrnod Canser y Byd. Bydd nifer o sgyrsiau byr gan oncolegwyr ac ymchwilwyr prifysgol ac yna sesiwn holi ac ateb.
Angharad Wilkie, ymchwilydd PhD o Ysgol Gwyddorau Meddygol y Brifysgol sydd wedi trefnu鈥檙 digwyddiad, er mwyn ddangos y cydweithrediad sy鈥檔 bodoli rhwng y Brifysgol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin, Gofal Canser Tenovus ac Ymchwil Canser Cymru.
Bydd panel holi ac ateb ar ddiwedd y sesiwn yn rhoi cyfle i aelodau'r cyhoedd ofyn cwestiynau i'r ymchwilwyr.
Mae鈥檙 sgyrsiau wedi eu llunio ar gyfer cynulleidfa eang, felly dylai pawb allu deall y derminoleg a mwynhau'r noson.
Bydd raffl hefyd yn cael ei chynnal ar y noson, gyda thocynnau RibRide (Porthaethwy) yn wobr gyntaf, talebau marchogaeth yng nghanolfan farchogaeth Ynys M么n yn ail wobr a thalebau Pontio yn drydedd wobr, ynghyd 芒 detholiad o wobrau llai.
Mae'r digwyddiad ar agor i bawb ac nid oes angen archebu o flaen llaw.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ionawr 2020