The Toddlers who took on Dementia
Rhaglen ddogfen gan BBC Cymru yw 鈥淭he Toddlers who Took on Dementia鈥. Mae'n dilyn tri diwrnod o weithgareddau a drefnwyd i geisio archwilio'r hyn sy'n digwydd pan fydd plant meithrin a phobl sy'n byw gyda Dementia'n dod ynghyd.
Bu Seicolegwyr o Brifysgol 亚洲色吧 yn gweithio gyda Chwmni Teledu Darlun i greu gweithgareddau sy'n rhoi diddordebau鈥檙 unigolion yn ganolog ac sy'n addas ar gyfer pob oedran. Roedd y t卯m yn cynnwys yr Athro Emeritws Bob Woods, arbenigwr rhyngwladol mewn Therapi Ysgogi Gwybyddol a'r Dr Catrin Hedd Jones, ill dau o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd a'r Dr Nia Williams, Seicolegydd Pant o'r Ysgol Addysg.
Roedd Rebecca Nicholson, Rheolwraig y Feithrinfa fu yn rhan o鈥檙 gwaith yn disgrifio fod y plant wedi wirioneddol fwynhau y profiad 鈥渁nhygoel ac wedi elwa wrth fod yn rhan o brofiadau bywyd sydd yn allweddol i鈥檞 datlblygiad a鈥檜 addysg鈥.
Dywedodd Rheolwr y Ganolfan gofal dydd i鈥檙 Oedolion, Christine Williams, yngl欧n 芒'r profiad
"Rydym i gyd yn falch iawn o fod yn rhan o arbrawf mor gyffrous, roedd yn naturiol iawn ac roedd y canlyniadau a gawsom yn anhygoel. Yn awr rhaid i ni ail-feddwl yn genedlaethol ac yn rhyngwladol oherwydd fe aildaniodd y rhaglen hon deimladau a ddaeth 芒 hapusrwydd i'r unigolion yr ydyn ni'n eu cefnogi, sy'n byw gyda Dementia."
Fe wnaeth cwmni teledu Darlun hefyd ran ariannu Myfyriwr Gradd Meistr i gloriannu'r arbrawf o dan cynllun Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2), a bu'n casglu data gan y plant a'r oedolion a fu'n cymryd rhan. Ar hyn o bryd mae Lynwen Hamer wrthi鈥檔 dadansoddi'r canfyddiadau fel rhan o'i gradd Meistr.
Ar sail llwyddiant eu gwaith hyd yn hyn mae Dr Jones hefyd yn arwain ymchwil newydd KESS2 mewn partneriaeth 芒 Chyngor Gwynedd. Bydd yr ymchwil newydd yma'n dadansoddi鈥檙 elfennau sy'n sicrhau bod rhaglen sy'n Pontio'r Cenedlaethau rhwng plant ysgol gynradd ac oedolion h欧n yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy. Ar hyn o bryd mae'r t卯m wrthi'n recriwtio ymchwilydd dwyieithog i ymuno 芒'r astudiaeth (http://kess2.ac.uk/buk2159/).
Mae鈥檙 rhaglen nos Fercher yn adeiladu ar y cyfres Hen Blant bach a ddaeth i S4C dros Rhagfyr 2016 a 2017 a sydd wedi ennill gworau rhyngwladol yn ddiweddar. Daeth i鈥檙 brig yn y Gw欧l Filmiau Geltaidd am Gyfres Ffeithiol Orau a cafwyd Medal Arian Rhyngwladol yng Ngw欧l Ffilm a Theledu Efrog Newydd yn 2018.
Caiff 鈥楾he Toddlers who took on Dementia鈥 ei darlledu ddydd Mercher 23 Mai, BBC1 Cymru am 9pm, fel rhan o Wythnos Gweithredu Dementia.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Ymchwil ar Ddementia sy'n cael ei chynnal ym Mhrifysgol 亚洲色吧 dilynwch y ddoleni isod.
Nodyn pwysig i unrhyw un sy'n ystyried cyhoeddi'r datganiad hwn i'r wasg - mae pobl sydd 芒 dementia yn meddwl bod geiriau fel 'dioddefwr' neu 'ddioddef' yn sarhaus o'u gweld nhw yn y cyfryngau ac mewn penawdau. Er mwyn peidio 芒 defnyddio termau tramgwyddus wrth drafod dementia darllenwch y canllawiau a baratowyd gan bobl sy'n byw gyda dementia ar y ddolen gyswllt hon http://dementiavoices.org.uk/wp-content/uploads/2015/03/Deep-Guide-language.pdf
Links
鈥 Cipolwg ar y rhaglen fydd ar BBC Wales
鈥 Ysgoloriaeth newydd ar gyfer ymuno a t卯m ymchwil Pontio鈥檙 Cenedlaethau
鈥 Gwybodaeth am KESS2
鈥 Safle w锚 ymchwil Dementia ym Mangor:
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2018