SYMUD - Rhoi Ymchwil ar Waith
Bellach gall cleifion hemodialysis wneud mwy o ymarfer corff wrth dderbyn triniaeth i achub bywyd, diolch i wefan newydd a ddatblygwyd gan arbenigwyr ymarfer corff.
Mae'r Ffisiolegwyr Ymarfer, Dr Jennifer Cooney a Dr Jamie Macdonald o Ganolfan PAWB Prifysgol 亚洲色吧 yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn rhoi eu hymchwil ar waith drwy greu SYMUD, gwefan ac adnoddau sy'n helpu pobl sydd 芒 chlefyd yr arennau deimlo'n well trwy symud mwy, er eu bod yn gorfod treulio llawer iawn o amser ar eu heistedd tra maent yn derbyn triniaeth hanfodol i achub bywyd.
Esbonia Dr Jennifer Cooney:
鈥淢ae pobl sydd 芒 chlefyd cronig yr arennau ac yn enwedig pobl sy'n cael hemodialysis yn gorfod mynd i'r ysbyty sawl diwrnod yr wythnos ac am gyfnodau hir. O'r herwydd mae'r cleifion yn gallu mynd yn gorfforol segur. Mae ymchwil blaenorol, gan gynnwys ein gwaith ein hunain, wedi dangos y gall ymarfer corff rheolaidd fod yn llesol iawn i gleifion dialysis. Mae cleifion sy'n ymarfer yn rheolaidd yn dweud wrthym bod ymarfer corff yn gwella ffitrwydd corfforol, cryfder y cyhyrau, gallu gweithredol, lles cyffredinol ac ansawdd bywyd yn gyffredinol.鈥
Caiff SYMUD ei ariannu gan Gyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol 亚洲色吧, ac fe'i datblygwyd i helpu cleifion dialysis wneud mwy o ymarfer corff ac i helpu gweithwyr iechyd proffesiynol wneud ymarfer corff yn rhan o ofal beunyddiol.
Mae holl adnoddau SYMUD ar gael am ddim ar wefan SYMUD: . Mae llyfryn y claf Fy Nghanllaw i Fod yn Egn茂olhefyd ar gael yn Gymraeg ac mae eisoes yn cael ei gyfieithu i ieithoedd eraill.
Dywedodd Dr Jamie Macdonald: 鈥淢ae'n wych gweld canfyddiadau ymchwil diweddar bellach yn cael eu rhoi ar waith mewn gofal clinigol. Mae Cymru'n arwain y ffordd gyda'r project hwn a chredwn fod gan SYMUD y potensial i helpu gwneud ymarfer corff yn rhan o ofal beunyddiol mewn unedau arennol ledled y Deyrnas Unedig a'r byd鈥.
Dywedodd Lynn David o Ben-y-bont ar Ogwr, claf dialysis yn Uned Arennol Liz Baker, (Ysbyty Treforys):
鈥淩oeddwn i'n teimlo'n eithaf unig (yn ceisio ymdopi 芒 chlefyd yr arennau), ac roeddwn yn teimlo bod y llyfryn yn llawn cydymdeimlad - mae'n wych!"
Dywedodd Celia Davis o Ben-y-bont ar Ogwr, claf dialysis yn Uned Arennol Liz Baker (Ysbyty Treforys):
鈥淩oedd yn ddiddorol, a dewis da o ymarferion. Fyddwn i ddim wedi meddwl gwneud ymarferion coesau. Roedd y llyfryn yn hawdd ei ddeall.鈥
Dr Poulikakos, Neffrolegydd Ymgynghorol yn Uned Arennol Bolton (Ysbyty Brenhinol Bolton):
鈥淒yma waith ardderchog sy'n mynd i'r afael ag angen clinigol oedd heb ei ddiwallu am bresgripsiwn ymarfer corff unigol i gleifion sydd 芒 chlefyd cronig yr arennau. Gall SYMUD helpu teilwra ymarfer corff i anghenion a galluoedd penodol y cleifion dialysis a gwneud ymarfer corff yn rhan o ofal beunyddiol.鈥
Dywedodd Clare Weekes, Ffisiotherapydd Arennol yn Uned Arennol Liz Baker (Ysbyty Treforys):
鈥淢ae'r cleifion yn mwynhau'r llyfryn ac mae llawer ohonynt wedi dechrau ymarfer yn rheolaidd gartref. Mae'n ganllaw da ac yn llawn cyfeiriadau ac mae'r cleifion yn teimlo y gallant wneud yr ymarferion yn bennaf oherwydd bod lluniau o rywun yn ymarfer wrth ddialysio!鈥
Dywedodd Jasmine, Ffisiotherapydd Myfyrwyr yn Ysbyty Treforys:
鈥淢ae'r Canllawiau i Weithwyr Iechyd Proffesiynol yn benodol iawn ac yn hawdd eu dilyn. Mae llyfryn y cleifion yn helpu rhoi ffordd o fyw fwy egn茂ol i'r cleifion鈥
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2019