Swydd Athro newydd yn ymgorffori鈥檙 gweithio ar y cyd sydd rhwng Prifysgol a Bwrdd Iechyd
Mae Debbie Roberts yn teimlo ei bod mewn sefyllfa dda i gael effaith ar addysg nyrsio, ac i ddylanwadu ar ofal cleifion, wedi iddi dderbyn Cadair Astudiaethau Nyrsio Sylfaenol (Foundation of Nursing Studies/ ) mewn Dysgu Practis (Practice Learning), yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol 亚洲色吧.
Cefnogir apwyntiad Debbie Roberts i鈥檙 swydd unigryw, sydd yn pontio practis clinigol a dysgu, gan y Foundation of Nursing Studies (FoNS). Yn rhinwedd ei phenodiad, mae鈥檙 Athro Roberts yn gallu gweithio 芒 myfyrwyr Prifysgol 亚洲色吧 a chyda nyrsys cymwysedig a phobl broffesiynol eraill o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ei nod yw ehangu a datblygu awyrgylch ddysgu ar gyfer myfyrwyr nyrsio yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol 亚洲色吧 ac i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y GIG ar draws gogledd Cymru.
Meddai鈥檙 Athro Debbie Roberts:
鈥淩wy鈥檔 angerddol dros addysgu a dysgu yn maes addysg nyrsio, ac yn awyddus i hybu dysgu ac ymestyn dysgu mewn practis er mwyn gwella gofal iechyd yn y rhanbarth. Mae gen i lawer o ddiddordeb mewn sicrhau ein bod yn cysylltu ymchwil, addysgu a mentergarwch gyda鈥檌 gilydd ac yn defnyddio tystiolaeth fel sail i鈥檔 addysgu.鈥
Ers ei phenodi, mae Debbie wedi datblygu strategaeth ar gyfer dysgu practis sydd yn canolbwyntio ar gefnogi myfyrwyr nyrsio israddedig drwy fentora. Mae hi hefyd yn archwilio sut y gellir defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar erchwyn y gwely, er mwyn ehangu dysgu i鈥檙 myfyrwyr a gofal cleifion.
Meddai Dr Theresa Shaw, Prif Weithredwraig FoNS:
鈥淩wyf wrth fy modd bod y bartneriaeth arloesol hon rhwng FoNS, Prifysgol 亚洲色吧 a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi arwain at benodi yr Athro Roberts i鈥檙 swydd gyffrous hon, sy鈥檔 cefnogi a hybu dysgu yn y practis. Gyda鈥檙 gwerthoedd a鈥檙 dyheadau sydd gennym yn gyffredin, i ehangu gofal ac iechyd drwy ragoriaeth mewn addysgu a dysgu, ochr yn ochr gyda gwellhad i鈥檙 gwasanaeth, mae鈥檙 swydd yn cynnig cyfle i gryfhau amgylchoedd dysgu practis ar draws gogledd Cymru a chynnig dysgu mwy eang drwy iechyd a gofal cymdeithasol.鈥
Meddai Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth :
鈥淩ydym yn falch o gael y cyfle i gydweithio gyda鈥檙 Athro Roberts. Mae鈥檔 hollbwysig i ni ac i鈥檙 boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ein bod yn cael gweithlu nyrsio talentog sydd wedi ei recriwtio a鈥檌 ddatblygu鈥檔 lleol. Rydym yn croesawu鈥檙 penodiad ac yn ffyddiog y bydd yr Athro Roberts yn gwneud cyfraniad gwerthfawr wrth gynorthwyo datblygiad y genhedlaeth nesaf o nyrsys a bydwragedd gofalgar, talentog a medrus.鈥
Meddai鈥檙 Athro Chris Burton, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol 亚洲色吧:
鈥淩ydym wrth ein bodd i gael yr Athro Roberts yn ymuno a鈥檙 t卯m ac i fod yn gartref i鈥檙 penodiad ar y cyd blaengar hwn. Mae amcanion y swydd yn gweddu 芒鈥檔 hamcanion ni yma. Mae gennym yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd draddodiad hir o weithio mewn partneriaeth gyda鈥檙 GIG a chyda grwpiau eraill, er mwyn darparu rhaglenni is-raddedig, 么l- raddedig a doethurol sy鈥檔 cael effaith ar fyfyrwyr a gwasanaethau fel ei gilydd. Mae ein hymchwil, sydd o safon ryngwladol, ym maes gwella gofal iechyd yn ein galluogi i weithio gyda phartneriaid i fynd i鈥檙 afael 芒 heriau gofal iechyd cyfoes.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2017