Staff a myfyrwyr yn cael ras Dreigiau i godi arian i Hosbis Dewi Sant!
Cafodd yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ddiwrnod gwych pan gynhaliwyd yr Her Cychod Draig Hosbis Dewi Sant ar Lyn Padarn yn Llanberis. Roedd 22 o dimau yn cystadlu yn yr her a oedd yn cynnwys dau dîm o'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, sef un tîm staff ac un tîm myfyrwyr. Roedd y cychod yn rasio mewn parau gyda'r staff yn erbyn y myfyrwyr. Cafwyd llawer o herian am wythnosau ymlaen llaw gyda lluniau a fideos o'r timau yn ymarfer yn ymddangos ar twitter felly bu cystadlu brwd. Gwnaed ymdrech lew gan y ddau dîm ac er mai tîm y staff oedd yn fuddugol, dim ond llai na hanner eiliad oedd rhyngddyn nhw â thîm y myfyrwyr.
Hyd yma maent wedi codi tua £1500 i Hosbis Dewi Sant sy'n darparu gofal lliniarol a diwedd oes arbenigol am ddim yn ein cymuned. Yn ogystal â chodi arian, llwyddodd yr her i gael staff a myfyrwyr i ymwneud â'i gilydd tu allan i'r byd academaidd gyda phwrpas, brwdfrydedd, ymarfer a hwyl ac roedd yn ffordd wych o gael pawb i weithio fel tîm. Cafwyd llawer o hwyl a chwerthin yn ystod y diwrnod a dangosodd tîm y myfyrwyr, oedd wedi eu gwisgo fel Arch Noa, eu bod yn gollwyr da trwy rwyfo i'r lan ar ddiwedd y ras dan ganu 'rhibidirês, rhibidirês, i mewn i'r arch â nhw!'
Bydd yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn parhau i ddatblygu cysylltiad gyda Hosbis Dewi Sant gan ei bod yn ddiweddar wedi penodi swydd bartneriaeth 'Darlithydd Gofal Lliniarol a Diwedd Oes Hosbis Dewi Sant', ac yn edrych ymlaen at gysylltiad agos yn y dyfodol. Mae'r cyswllt ‘just giving’ yn agored tan ddiwedd Gorffennaf i'r rhai fyddai'n hoffi cyfrannu:
Dywedodd capten y staff, Benjamin Turton, sef Darlithydd Gofal Lliniarol a Diwedd Oes Hosbis Dewi Sant, "Roedd yn ddiwrnod gwych ac yn dangos beth sy'n arbennig am Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ÑÇÖÞÉ«°É, sef yr awyrgylch cyfeillgar a chefnogol rhwng staff a myfyrwyr a’u bod eisiau gwneud yr hyn sydd ei angen i gefnogi gofal iechyd yn y gymuned leol, boed trwy ymchwil, perfformiad ein graddedigion neu godi arian. Deallaf fod cynlluniau ar y gweill eisoes ar gyfer y flwyddyn nesaf ac rwy'n gobeithio ennill cwpan bryd hynny!"
Ychwanegodd Pennaeth yr Ysgol, Chris Burton, "Hoffwn ddiolch i bawb wnaeth ein noddi a diolch arbennig i'r rhai fu'n cymryd rhan, yn arbennig y myfyriwr nyrsio yn yr ail flwyddyn, Teleri Roberts a drefnodd tîm y myfyrwyr. Rydym yn edrych ymlaen yn barod at gystadlu’r flwyddyn nesaf!"
Tîm y staff
- Capten Benjamin Turton
- Rob Couch
- Patricia Masterson Algar
- Beryl Cooledge
- Sion Williams
- Alison Lester Owen
- Tania Seale
- Andrew Walker
- Peter Westmoreland
- Jo Rycroft Malone
- Alan Thomas
- Jude Field
- Becki Law
- Sara Elloway
- Katherine Algar-Skaife
- Gemma Prebble
- Gwerfyl Roberts
Tîm y myfyrwyr
- Capten Teleri Roberts
- Luke Daniel Parry
- Beth McAdam
- Kirsty Anna Harrington
- Steven Peter Loughead
- Adam Benjamin Monaghan
- Molly Elizabeth Jones
- Naomi Maguire
- Rhianna Walton
- Amanda Dawn Wilkinson
- Philippa Matthews
- Hannah Jade Taylor
- Sara Ruth Finkel
- Lisa Williams
- Victoria Louise Franklin
- Sean Bray
- Sophie Burgess
- Rebecca Louise Galeandro
- Qureimah Macko Jones
- Clare Crowley
- Heini Williams
- Jayne Bayliss
- Nia Chafe
Dyddiad cyhoeddi: 6 Gorffennaf 2017