Sesiwn i rannu ymchwil leol ar anableddau dysgu ac awtistiaeth
Bydd ymchwil newydd ym maes anableddau dysgu ac awtistiaeth, a wnaed yn lleol, yn ganolbwynt prynhawn o gyflwyniadau ym Mhrifysgol 亚洲色吧, sydd yn rhad ac am ddim ac ar agor i bawb.
Bydd gr诺p o siaradwyr o Goleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad y Brifysgol a'r Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi crynodeb o wahanol brojectau ymchwil maent wedi bod yn rhan ohonynt yn ddiweddar.
Cynhelir y digwyddiad o 2-5pm ddydd Iau, 30 Ionawr, yn Neuadd Powis y Brifysgol, ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau.
Dywedodd Dr John Parkinson, Pennaeth yr:
"Mae'r gynhadledd hon wedi'i llunio i apelio i unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn ymchwil, neu sydd 芒 diddordeb yn fwy cyffredinol mewn anableddau dysgu ac awtistiaeth, am ba reswm bynnag. Efallai eich bod yn rhiant i blentyn ag anabledd, neu'n frawd neu chwaer, neu'n bartner. Efallai i chi gymryd rhan mewn un o'r projectau ymchwil y rhoddir cyflwyniad arnynt. Efallai bod gennych chi eich hun anabledd. Gallech fod yn weithiwr proffesiynol yn y maes. Neu, efallai eich bod chi'n chwilfrydig yn unig. Mae croeso mawr i bawb."
Bydd y testunau yn cynnwys: gwella sgiliau darllen plant gydag anableddau deallusol; syndromau genetig prin; Dadansoddi Ymddygiad Cymhwysol; Therapi Rhyngweithio Cerddoriaeth i blant gydag awtistiaeth; ymwybyddiaeth ofalgar i rieni plant gydag awtistiaeth; rhywioldeb pobl ifanc gydag anableddau; iechyd corfforol ac iechyd meddwl perthnasau sy'n byw gydag oedolion ag anabledd dysgu; ac ymchwil gynhwysol gyda phobl gydag anabledd dysgu.
Dywedodd Dr Susie Nash, cydlynydd i LDAN Cymru (Rhwydwaith Ymchwil i Anableddau Dysgu, Awtistiaeth ac Anhwylderau Niwroddatblygiadol, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru), sy'n noddi'r digwyddiad:
"Rydw i mor hapus y gall LDAN helpu i roi gwybod i bobl am yr hyn sy'n digwydd mewn ymchwil yn lleol. Mae'n rhaglen dda ac amrywiol, a dylai fod yna rhywbeth i bawb. Mae digwyddiadau LDAN yn cael eu croesawu fel rhai cyfeillgar a llawn gwybodaeth, ac maent bob amser yn gyfle i ddal i fyny 芒 phobl eraill a gofyn cwestiynau".
Bydd y digwyddiad yn ddwyieithog, gyda rhai cyflwyniadau drwy鈥檙 Saesneg a rhai drwy鈥檙 Gymraeg. Bydd cyfleusterau cyfieithu ar gael ar y diwrnod. Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond bydd angen i'r rhai sy'n dymuno dod gofrestru ar-lein yn www.ldancymru.org.uk, neu drwy gysylltu 芒 Leah Jones ar leah.jones@bangor.ac.uk neu ffonio 01248 388175.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2014