‘Safety=Design’: Achub miloedd o fywydau ac arbed miliynau o bunnoedd
Mae gobaith y bydd prosiect a lansiwyd mewn cydweithrediad â Phrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn achub miloedd o fywydau drwy symleiddio sut mae staff gofal iechyd a chleifion yn adnabod symptomau.
Cafodd y prosiect 'Safety=Design' ei gadarnhau ym mis Medi 2015 a chaiff ei arwain gan Dr Chris Subbe sydd yn Uwch Ddarlithydd Clinigol yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ac yn ymgynghorydd yn Ysbyty Gwynedd, ÑÇÖÞÉ«°É. Mae'r prosiect o gymorth wrth gyfeirio risgiau trwy fabwysiadu system goleuadau traffig er mwyn llywio ymddygiad gofalwyr a chleifion wrth erchwyn y gwely. Y nod oedd datblygu cyfres o eiconau sy'n cywasgu gwybodaeth gymhleth yn awgrymiadau gweledol syml.
Anafiadau Arennol Llym yw un o achosion pennaf niwed osgoadwy y mae pobl yn dioddef ohono wrth ddod i’r ysbyty, ac mae un o bob pedwar yn marw o ganlyniad i'r cyflwr. Mae hyn yn aml oherwydd bod gwybodaeth a allai achub bywyd wedi ei gladdu ymysg cofnodion swmpus ac annigonnol, ond mae Dr Subbe yn hyderus y bydd y prosiect o gymorth i ddatrys y broblem hon. Dywedodd:Ffigwr 1 Dr Subbe yn gweithio ar y prosiect
"Ar hyn o bryd mae 5-10% o gleifion yn dioddef oherwydd camfarn, ac mae hynny'n digwydd yn bennaf o ganlyniad i'r ffaith fod staff clinigol yn gorfod gweithio trwy fynydd o waith papur. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio ar wybodaeth weledol ac yn gwneud symptomau’n fwy amlwg i bobl, a dyna beth mae'r prosiect hwn yn ei wneud. Mae hefyd yn bwysig iawn ein bod yn cynnwys cleifion a'u teuluoedd."
Daeth y prosiect ag ymarferwyr clinigol, cynrychiolwyr ar ran cleifion a dylunwyr o'r Coleg Celf Brenhinol at ei gilydd. Cafodd pedwar dull gwahanol eu treialu mewn wardiau cyffredinol ar safleoedd chwe ysbyty yn Llundain ac yng Nghymru, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ÑÇÖÞÉ«°É oedd yn arwain. Roedd y dulliau'n cynnwys:
- 'Dyddiaduron cleifion', a oedd yn galluogi'r cleifion i ddod yn bartneriaid gweithredol yn eu gofal eu hunain drwy gofnodi faint o hylif yr oeddynt yn ei yfed a chofnodi all-lif yr wrin mewn perthynas â'r risg o gael trafferthion arennol.
- Breichled 'KidneySafe', sydd o'i gwisgo'n gwella sut y caiff all-lif wrin ei gofnodi. Caiff ei rhoi i'r cleifion hynny yr ystyrir bod mwy o risg iddynt.
- Y 'WeeWheel', sy'n galluogi nyrsys i gael gafael ar wybodaeth yn syth am leiafswm diogel cyfaint wrin cleifion unigol. Mae'r nodi beth yw all-lif rhywun sydd 'mewn perygl' fesul awr.
- 'SepsisPanel', sef set o eiconau ar gyfer heintiau a’r Syndrom Ymateb Llidiol Systematig. O gael eu gosod ger gwely'r claf, mae'r marcwyr madredd yn newid o las i goch yn dibynnu ar y difrifoldeb.
Mae 'Safety=Design' yn gysylltiedig ag University College London Partners, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Helen Hamlyn Centre for Design, 1000 o Fywydau a Mwy, a Phrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Y gred yw y gallai'r prosiect fod yn gost effeithiol iawn i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Er enghraifft, mae Anafiadau Arennol Llym yn costio tua £434-620 miliwn y flwyddyn, ond credir y byddai modd atal o leiaf 20-30% o'r achosion yn rhannol. Golyga hyn y gellid cael arbedion costau o hyd at £100 miliwn y flwyddyn.
Mae'r prosiect erbyn hyn ar waith yn Ysbyty Gwynedd, ÑÇÖÞÉ«°É ac mae hefyd yn cael ei dreialu yn Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty'r Rhyl, Ysbyty Maelor Wrecsam ac yn Ysbyty Frenhinol Gwent yng Nghasnewydd.
Mae'r Athro John Parkinson, Pennaeth Seicoleg ac un o ymchwilwyr 'Safety=Design' o'r farn y bydd y canfyddiadau’n cael effaith gadarnhaol ar ofal iechyd. Dywedodd: "Dw i'n credu y bydd 'Safety=Design' yn gwella’n sylweddol y ffordd yr ydym yn adnabod symptomau ac yn rhoi triniaeth. Bydd y gwaith ymchwil blaengar ac amlddisgyblaethol yma'n cael effaith ar ogledd Cymru, ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ehangach, a gobeithio ledled y byd."
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2016