Rhyl Scoops yn cynnig profiad Parlwr Hufen Iâ traddodiadol
Ydych chi’n mwynhau’r tywydd braf? Os ydych chi yng nghyffiniau'r Rhyl, yna pam na wnewch alw heibio am hufen iâ bendigedig ym mharlwr hufen iâ , a fydd ar agor am wythnos yn unig rhwng 23-30 Mehefin.
Mae Rhyl Scoops yn gobeithio gwneud eu marc gyda’u hethos menter gymdeithasol ac ymrwymiad at hyfforddi, ond efallai mai’r hufen iâ blas pwdinau sy’n denu sylw sawl un!
Ynghyd â hufen iâ blasau fanila, siocled a mefus, ac un mint efo darnau siocled a darnau diliau mêl (honeycomb) sy’n swnio’n flasus, mae’r parlwr Hufen Iâ’n cynnig blasau hufen iâ pwdinau traddodiadol fel pwdin taffi gludiog a meringue lemwn.
Ffrwyth dychymyg a menter tîm o fyfyrwyr seicoleg o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, sef Daniel Taylor, Emma Dixon, Kate Isherwood a Louise Ainsworth yw’r cyfan.
Mae’r Tîm yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth genedlaethol ar draws y DU, Test Town 2014. Ar gyfer y gystadleuaeth, maent yn agor siop wag yn Stryd Fawr y Rhyl, er mwyn profi eu gallu i sefydlu busnes dichonadwy mewn dim ond un wythnos.
Mae yn gystadleuaeth genedlaethol a gynhelir gan Carnergie UK Trust fel y gall pobl ifanc mentrus agor ‘siopau codi’, ac mae'r Rhyl yn un o wyth o drefi ar hyd a lled y DU sydd wedi ei dethol i gymryd rhan.
Nod y siopau codi hyn yw addysgu'r cyfranogwyr a hefyd, ysbrydoli'r bobl leol, ac mae Rhyl Scoops yn un o bum tîm a fydd yn bywiogi canol dref Y Rhyl am yr wythnos gan obeithio troi syniad yn llwyddiant masnachol a moesegol.
Bydd yn gwerthu hufen iâ ffres a gynhyrchwyd yn lleol. Y syniad y tu ôl i’r parlwr yw creu busnes lle mae'r gweithwyr yn cael hyfforddiant ac ennill cymwysterau NVQ lletygarwch, yn cefnogi busnesau lleol eraill a’i fod hefyd yn lle cymdeithasol i ymlacio a hel atgofion am Y Rhyl yn y gorffennol a'r presennol.
Meddai aelod o'r tîm, Emma Dixon:
"Roeddem eisiau rhywbeth a fyddai nid yn unig yn ein hatgoffa am yr hen lan y môr traddodiadol, ond hefyd yn helpu a gwobrwyo'r bobl leol yn Rhyl. Mae'n deimlad anhygoel y bydd rhywbeth nad oedd yn fwy na dim ond syniad yn dod yn fusnes gweithredol mewn ychydig o wythnosau," meddai.
Meddai'r Athro James Intriligator, Cyfarwyddwr rhaglen meistr Seicoleg Defnyddwyr a Busnes ym Mangor: "Rwyf yn arbennig o falch o'r tîm hwn. Nid oes pendraw i'w brwdfrydedd a'u creadigrwydd. Fis diwethaf roeddent yn cystadlu yn yr her busnes Flux, lle ddaethant yn ail a dychwelyd yn barod am ragor o sialensiau. Maent yn cydweithio'n arbennig o dda fel tîm, ac rydw i’n siŵr y byddant yn gwneud ymdrech fawr i geisio ennill y sgŵp cyfan o £10,000."
Bydd Tîm buddugol o’r wyth tref yn cystadlu yn erbyn ei gilydd yn y rownd derfynol yng Nghaergrawnt, â’r cyfle i ennill £10,000 tuag at gychwyn busnes.
Derbyniodd Tîm ÑÇÖÞÉ«°É gefnogaeth ac anogaeth gan dîm Byddwch Fentrus Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Brifysgol. Maent wedi ymrwymo i annog a hyrwyddo’r math yma o weithgarwch mentrus, gyda chymorth gan gyllid Canolfannau Rhanbarthol Llywodraeth Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2014