Rhifyn arbennig o gyfnodolyn am ffisioleg amgylcheddol eithafol yn rhoi sylw i ymchwil o Fangor
Mae'r Global Research Expedition on Altitude Related Chronic Health (Global REACH) yn gydweithrediad rhyngwladol cyffrous rhwng ymchwilwyr o Ewrop ac America sydd 芒'r nod cyffredin o wella dealltwriaeth o addasiad dynol i uchder mawr. Y mis hwn, mewn rhifyn arbennig o Experimental Physiology: Extreme environmental physiology,mae astudiaeth o alldaith Global REACH 2018 i Beriw, a oedd yn cynnwys gwyddonwyr o Gr诺p Ymchwil Eithafion Prifysgol 亚洲色吧, yn cael lle amlwg fel 'dewis y Golygydd'.
鈥淵m Mheriw, mae oddeutu traean o鈥檙 boblogaeth yn byw ac yn gweithio yn yr Andes ar uchder sydd tua thair i bedair gwaith yn uwch na'r Wyddfa, y copa uchaf yng Nghymru鈥 meddai Dr Jonathan Moore, un o brif awduron y papur. 鈥淢ae cael eich geni ar uchder yn cynnig rhywfaint o addasiad naturiol i ymdopi 芒 straen bywyd mewn aer tenau. Serch hynny, mae tua 15% o oedolion yr Andes yn colli eu gallu i ymdopi yn yr hirdymor, gan arwain at syndrom camymaddasiad a elwir yn salwch mynydd cronig, neu CMS.
鈥淢ae'n bwysig nodi fod CMS yn wahanol i afiechydon a brofir gan rai o frodorion yr iseldir nad ydynt yn gyfarwydd ag uchder mawr鈥 ychwanegodd Moore. 鈥淢ae CMS yn aml yn gysylltiedig ag abnormaleddau gweithrediad cardiofasgwlaidd, ac o鈥檌 gymharu 芒 phobloedd brodorol eraill, megis pobl Llwyfandir Tibet ac Ucheldir Dwyrain Affrica, ymddengys bod nifer yr achosion o CMS yn uwch yn achos brodorion Andes De America.鈥
Mae'r erthygl, sy'n 'ddewis y golygydd', yn gwella dealltwriaeth o reoleiddiad ac integreiddiad gweithredu cardiofasgwlaidd ar uchder mawr. Ynghyd ag astudiaeth arall gan Dr Moore a chydweithwyr, mae'r gwaith hwn yn cefnogi theori ynghylch gwahanol lwybrau penodol o addasiad ffisiolegol i ymdopi 芒 bywyd mewn aer tenau.
Mae'r gr诺p Ymchwil Eithafion wrth eu bodd bod eu hymchwil yn derbyn sylw yn Experimental Physiology. Ymhellach, mae'r gr诺p yn falch iawn o gyfrannu at Global REACH, sy'n hwyluso cyfranogiad mewn astudiaethau maes uchder mawr ar draws yr ystod lawn o brofiad academaidd, o israddedigion at uwch ymchwilwyr. Mae'n braf cael nodi bod PhD wedi'i ddyfarnu i Dr Lydia Simpson, a oedd yn ymchwilydd 么l-raddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, ym mis Awst 2020 am draethawd ymchwil oedd yn cynnwys data o astudiaethau a gynhaliwyd ar Alldaith Global REACH 2018. Mae'r Hot Topic Review, a gyhoeddwyd hefyd yn Experimental Physiology, ar gael i鈥檞 ddarllen.
Global REACH, Cerro de Pasco, Periw, Mehefin 2018 (Lydia Simpson, rhes flaen, ail o'r chwith; Jonathan Moore, yn y cefn, canol)
Lydia Simpson & Jonathan Moore
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2021