Profi rhaglen wrth-fwlio effeithiol i Gymru
Mae ym Mhrifysgol 亚洲色吧, sydd wedi chwarae rhan allweddol mewn ymchwilio i wasanaethau newydd ac arloesol i blant a'u teuluoedd a'u sefydlu ar hyd a lled Cymru, yn awr yn troi ei sylw at broblem bwlio mewn ysgolion.
Mae'r Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth yn awr yn ymchwilio i effeithiolrwydd rhaglen wrth-fwlio i ysgolion. Mae'r ganolfan hon eisoes wedi cyflwyno nifer o raglenni llwyddiannus ym maes ymddygiad plant, sydd wedi cael eu mabwysiadu gan deuluoedd, ysgolion, cynlluniau Cychwyn Cadarn ac eraill. Yn ogystal, mae wedi rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru a dylanwadu ar ei pholisi.
Gyda'u partner, y Dartington Social Research Unit, a chyllid gan gynllun Awydd am Arloesi y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, mae'r ganolfan yn asesu effeithiolrwydd rhaglen wrth-fwlio i ysgolion. Yn cyfrannu hefyd drwy wneud dadansoddiad o gost-effeithiolrwydd y rhaglen mae Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau'r Brifysgol.
Meddai'r Athro Judy Hutchings, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth ym Mhrifysgol 亚洲色吧:
"Mae bwlio'n broblem fawr yn ein hysgolion ac ymysg plant a phobl ifanc ac rydym yn clywed straeon cyson ar y cyfryngau am fwlio, naill ai wyneb yn wyneb neu 'seibr-fwlio' drwy gyfryngau cymdeithasol. Er nad yw ystadegau'n awgrymu bod y broblem yng Nghymru'n waeth nag yn unman arall, mae llywodraeth Cymru ac addysgwyr yn awyddus i fynd i'r afael 芒'r broblem. Cyn gwario arian cyhoeddus gwerthfawr, mae'n rhaid profi bod unrhyw raglenni'n effeithiol a'u bod yn rhoi gwerth am arian cyn y gellir eu sefydlu. Ac mae gennym ni ddegawdau o arbenigedd yn gwneud hynny.
"Rydym wedi chwilio am raglenni effeithiol i ddelio 芒 bwlio, a dwi'n credu ein bod wedi cael hyd i raglen dda yn rhaglen gwrth-fwlio KiVa. Cafodd ei datblygu ym Mhrifysgol Turku yn Y Ffindir a'i chyllido gan lywodraeth Y Ffindir. Er iddi fod yn llwyddiant yno, mae'n dal yn hollbwysig ein bod yn mesur effeithiolrwydd y rhaglen yn ein hysgolion ein hunain cyn argymell ei sefydlu ar draws y wlad," ychwanegodd.
Fel hyn yr eglurodd Suzy Clarkson, ymchwilydd a myfyriwr PhD ym Mhrifysgol 亚洲色吧:
"Mae 'KiVa', sy'n golygu 'dymunol' mewn Ffinneg ac sydd hefyd yn acronym dros 'yn erbyn bwlio', yn rhaglen gynhwysfawr ac amrywiol. Mae'n cynnwys gwersi dosbarth, gemau ar y we i roi prawf ar yr hyn mae plant yn ei ddysgu, gwefan i rieni, deunydd cynhwysfawr i athrawon, festiau chwarae KiVa, posteri ysgol a threfn benodol i ddelio 芒 digwyddiadau o fwlio. Mae ymchwil o'r Ffindir wedi dangos bod y rhaglen yn hynod effeithiol i leihau achosion o fwlio ac erlid. Erbyn hyn mae'r rhaglen wedi cael ei hymestyn ar draws Y Ffindir gyda chyllid gan lywodraeth y wlad.
Mae'r ymchwil bresennol yn ymwneud 芒 phlant rhwng 7 ac 11 oed mewn 21 o ysgolion cynradd yng Nghymru. Yn eu hanner mae'r rhaglen KiVa yn cael ei chyflwyno yn ystod y flwyddyn ysgol hon, tra bydd yn cael ei chyflwyno ymhen blwyddyn yn y 10 ysgol arall. Mae hyn yn estyniad i'r arbrawf peilot mewn 17 o ysgolion a gyflawnwyd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Ychwanegodd Suzy: "Er na chynhaliwyd profion yn erbyn ysgolion cymharu, nad oedd y rhaglen ganddynt, fe wnaeth ein harbrawf peilot mewn pedair ar ddeg o ysgolion yng Nghymru a thair ysgol yn Sir Gaer roi digon o ganlyniadau positif i ni gynnal arbrawf rheoledig mwy gan ddefnyddio deunyddiau dwyieithog gyda'r plant mewn 21 o ysgolion ledled Cymru."
Mae Ysgol Llanllechid yn un sy'n cymryd rhan yn y project. Meddai Mrs Gwenan Davies Jones, sy'n brifathrawes yno: "Mae'r ysgol wedi ymwneud 芒'r rhaglen KIVA gyffrous yma dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae sgiliau rhyngbersonol y plant yn sicr wedi gwella. Maen nhw wedi cydweithio drwy eu dealltwriaeth o'r hyn sy'n gwneud ysgol KIVA i gryfhau eu cyfeillgarwch a'u perthynas ag eraill. Mae'r disgyblion yn gallu adnabod unrhyw arwyddion o wrthdaro ac maen nhw'n awyddus bob amser i helpu eraill."
Am fwy o wybodaeth am KiVa ewch i:
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2013