Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn dyfarnu bwrsariaeth 'Merched mewn Gwyddoniaeth' cyntaf
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi dyfarnu ei bwrsariaeth arloesol 'Menywod mewn Gwyddoniaeth' gyntaf, gwerth £8,000 i Elizabeth McManus, 21, o Bolton, a raddiodd o y Brifysgol ym mis Gorffennaf.
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi ymrwymo i gynyddu cyfranogiad merched mewn gwyddoniaeth ar bob lefel addysg, ac mae’r Fwrsariaeth hon yn gam pellach tuag at annog a galluogi mwy o ferched i ddilyn gyrfaoedd gwyddonol. Mae'n ymateb i adroddiad ‘Women in Scientific Careers’ Pwyllgor Gwyddoniaeth a Thechnoleg Tŷ’r Cyffredin sy’n amlinellu anghenion y DU i fynd i'r afael â phrinder o wyddonwyr medrus a chynnwys merched mewn ymchwil fel nad yw gwaith ymchwil yn ffafrio rhyw benodol.
Roedd Elizabeth wrth ei bodd yn ennill y a dywedodd: "Mae'n deimlad gwych bod fy nghyraeddiadau a’m potensial i’r dyfodol wedi cael eu cydnabod a'u cefnogi gan y fwrsariaeth arloesol hon. Mae cydraddoldeb i ferched o fewn gwyddoniaeth yn hynod bwysig i mi gan nad wyf yn dymuno cael fy nal yn ôl neu fy nhrin yn wahanol oherwydd fy rhyw. Rwyf am wthio fy hun i fod y gorau y gallaf ei fod er mwyn mynd â fy ngyrfa yn ei blaen cyn belled ag y bo modd. Rwy'n teimlo y bydd y cymorth ariannol a’r mentora a gynigir gan y cynllun hwn yn fy helpu i gyflawni fy nodau gyrfa yn y pen draw.
"Ym mis Medi byddaf yn cychwyn ar y cwrs MSc Niwroddelweddu, ac ar ôl hynny rwy’n gobeithio llwyddo i gael cyllid a'r cyfle i gwblhau PhD, gyda’r gobaith o ymchwilio i effeithiau difrod a achoswyd i'r ymennydd drwy naill ai strôc neu ddementia. Os bydd popeth yn mynd yn dda, fy nod yw dilyn gyrfa yn ymchwilio i faes tebyg iawn."
Mae'r fwrsariaeth yn cael ei hariannu gan Gronfa ÑÇÖÞÉ«°É y Brifysgol sydd â’i chyfranyddion yn cynnwys cyn-fyfyrwyr, aelodau staff a chyfeillion Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, sydd i gyd yn rhoi pwys ar werth addysg uwch. Prif ddiben y Gronfa ÑÇÖÞÉ«°É yw galluogi'r Brifysgol i gyflwyno rhagoriaeth neu elfen o ychwanegolrwydd at brofiad myfyrwyr.
Dywedodd yr Athro John G Hughes, Is-Ganghellor: "Mae darparu amgylchedd cefnogol i ferched mewn pynciau sy'n seiliedig ar STEMM yn strategol bwysig i'r Brifysgol. Un ffon fesur yw ac fel sefydliad rydym wedi llwyddo i gyflawni'r wobr efydd. Rydym yn gobeithio y bydd bwrsariaeth 'Merched mewn Gwyddoniaeth' yn parhau yn flynyddol ac yn meithrin carfan gref o gyn-fyfyrwyr o ganlyniad i’r ysgoloriaeth arbennig hon."
Mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal amryw o brojectau i ddenu a chadw talent fenywaidd fel rhan o'i hymrwymiad i Siarter Athena SWAN.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2015