Prifysgol 亚洲色吧 yn cyfrannu at achredu Rhaglen Arweinyddiaeth Genedlaethol
Datganiad i'r wasg gan Gonsortia Addysg CYmru
Academi Newydd yn cymeradwyo Consortia Addysg Cymru i gyflwyno鈥檙 Rhaglen Arweinyddiaeth Genedlaethol Gyntaf i Ysgolion.
Mae diwrnod cenedlaethol y Rhaglen Datblygu Penaethiaid Newydd a Phenaethiaid Dros Dro a gynhelir yr wythnos hon (dydd Mercher 7 Tachwedd), ac sy鈥檔 cynnwys y siaradwr gwadd ysbrydoledig Syr John Jones, yn benllanw tymor o dorri tir newydd ar gyfer y consortia addysg (CSC, EAS, ERW a GwE ). Dyma'r rhaglen datblygu arweinyddiaeth genedlaethol gyntaf o ganlyniad i gydweithio rhwng y pedwar consortiwm i gael dilysiad gan bartneriaid achredu Prifysgol 亚洲色吧 a'r Athrofa (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant), a'r rhaglen gyntaf i鈥檞 chymeradwyo gan yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol a sefydlwyd yn ddiweddar.
Nod y rhaglen datblygu arweinyddiaeth, sy'n rhan o bortffolio prosiect cenedlaethol y consortia, yw datblygu darpariaeth unffurf o safon uchel i ddarpar benaethiaid, i benaethiaid newydd a phenaethiaid profiadol o bob cwr o Gymru. Mae'r rhaglenni hyn mewn ymateb i amcan Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth Ein Cenedl, sef meithrin "arweinwyr ysbrydoledig sy'n cydweithio i godi safonau". Y Rhaglen i Benaethiaid Newydd a Phenaethiaid Dros Dro yw鈥檙 cyntaf o鈥檙 rhaglenni hyn i鈥檞 chwblhau, ac fe鈥檌 cyflwynwyd ym mis Medi 2018.
Nid cynghrair o'r consortia yn unig yw鈥檙 rhaglen; mae hefyd yn bartneriaeth go iawn ar draws y sbectrwm addysg, gyda phenaethiaid ledled Cymru yn mynychu gweithdai i helpu a chynghori gyda dylunio rhaglenni. Yn ogystal, cafodd y rhaglen ei hadolygu'n gynhwysfawr gan grwpiau strategol penaethiaid o bob cwr o Gymru a chyfarwyddwyr addysg awdurdodau lleol. Mae sefydliadau addysg uwch Yr Athrofa a Phrifysgol 亚洲色吧 hefyd wedi chwarae rhan arwyddocaol wrth ddatblygu a chyflwyno modiwlau a phrosesau gwerthuso.
Meddai noddwr rhaglenni consortia a Rheolwr Gyfarwyddwr EAS, Debbie Harteveld:
"Ni fu鈥檙 broses heb ei heriau, ond, yn y pen draw, bu'n gyffrous ac yn brofiad gwerth chweil gweithio鈥檔 agos gyda chyd-weithwyr ar y rhaglen datblygu arweinyddiaeth genedlaethol gyntaf sy鈥檔 wirioneddol gydweithredol. Dyma raglen gyntaf continwwm o raglenni datblygu arweinyddiaeth sy'n cynnig darpariaeth datblygu arweinyddiaeth o safon uchel i athrawon ar bob cam o鈥檜 gyrfa, waeth ble maent yn byw neu鈥檔 addysgu yng Nghymru.
Mae'r rhaglenni hyn yn rhoi cyfle i athrawon wella eu sgiliau arwain trwy gydol eu gyrfa. Yn ogystal, yn dilyn proses dendro, dechreuodd y consortia bartneriaeth rhwng Prifysgol 亚洲色吧 a鈥檙 Athrofa i achredu nid yn unig y rhaglen i Benaethiaid Newydd a Phenaethiaid Dros Dro ond yr holl raglenni arweinyddiaeth sydd ar y gorwel, gan gynnig cyfle i athrawon a phenaethiaid gael achrediad a chymhwyster ffurfiol, yn amrywio o dystysgrif 么l-radd i uwch ddoethuriaeth. Gall aelodau鈥檙 cwrs hefyd geisio ennill credydau o weithgaredd dysgu yn y gwaith sy'n arwain at gymwysterau.
Ar 么l bron i ddwy flynedd o ymdrech ar y cyd, ym mis Gorffennaf 2018, cyflwynwyd y rhaglen i Benaethiaid Newydd a Phenaethiaid Dros Dro i鈥檙 Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol ei chymeradwyo. Yn dilyn hynny, y rhaglen oedd y gyntaf, a鈥檙 unig un hyd yma, i ennill cymeradwyaeth - cam arwyddocaol a chadarnhaol ymlaen i'r consortia ac i鈥檙 academi, gydag adborth gan y panel yn nodi:
'Rhaglen gyffrous wedi'i datblygu'n dda ac sydd wedi gosod safon uchel ar gyfer gweithgarwch ardystio i鈥檙 dyfodol gan yr Academi. Teimlai'r panel ardystio bod y ddarpariaeth, a ddatblygwyd o raglenni rhanbarthol presennol, yn ysbrydoledig yn ei gweledigaeth ar gyfer penaethiaid newydd a phenaethiaid dros dro, ac yn cyd-fynd yn llawn 芒 ffocws yr Academi ar arweinyddiaeth dysgu.'
Mae'r wythnos hon yn gwireddu cam cyntaf arall i鈥檙 consortia, sef y diwrnod cenedlaethol cyntaf i Benaethiaid Newydd a Phenaethiaid Dros Dro, pan fydd 120 o aelodau yn ymgynnull yng Ngwesty'r Marriott, Abertawe am raglen wedi鈥檌 chynllunio鈥檔 ofalus i lywio ac ysbrydoli arweinwyr addysgol y dyfodol ac sy鈥檔 cynnwys gweithdai a siaradwyr.鈥
Dywedodd siaradwr gwadd y rhaglen a Phrif Weithredwr yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysg, Huw Foster Evans:
鈥淢ae鈥檙 Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn falch iawn o fod yn bresennol ar gyfer lansiad swyddogol y Rhaglen i Benaethiaid Newydd a Phenaethiaid Dros Dro. Dyma鈥檙 rhaglen gyntaf i gael ei chymeradwyo gan yr Academi, a hoffem ddiolch yn fawr i bartneriaeth y pedwar rhanbarth ac i鈥檙 awdurdodau lleol a鈥檙 prifysgolion am eu gwaith. Hyderwn yn fawr y bydd y rhaglen newydd hon yn cynnig ysbrydoliaeth a chefnogaeth i genhedlaeth newydd o benaethiaid, sy鈥檔 chwarae rhan mor allweddol wrth arwain dysgu ein plant a鈥檔 pobl ifanc.鈥
Am ragor o wybodaeth am raglenni datblygu arweinyddiaeth, cysylltwch 芒鈥檙 Arweinydd Strategol Trawsrhanbarthol, Rhys Howard Hughes: rhyshowardhughes@gwegogledd.cymru
Dyddiad cyhoeddi: 8 Tachwedd 2018