Pobl hÅ·n yn helpu tyfu economi Cymru
Mae mwy a mwy o bobl dros eu 65 oed yn byw ac yn gweithio yng Nghymru heddiw, ac mae eu cyfraniad at economi Cymru’n tyfu.
Dyna mae economegwyr iechyd Canolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn ei ddweud yn eu hadroddiad heddiw (30 Gorffennaf 2018).
Fel yr esboniodd awdur arweiniol yr adroddiad, yr Athro Rhiannon Tudor Edwards:
"Yn yr adroddiad hwn, buom yn archwilio’r achos economaidd dros fuddsoddi mewn pobl hŷn fel asedau, drwy werthuso'r dystiolaeth economaidd sydd ar gael gan gynnwys ymyriadau, polisïau ac arferion sy'n berthnasol i Gymru. Ein nod yw ategu’r dystiolaeth a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Iechyd a Gofal (NICE), Sefydliad Gofal Cymdeithasol dros Ragoriaeth (SCIE), Cynghrair Henoed Cymru a Chynghrair Pobl Hŷn Cymru (COPA). Cofiwch, ar ôl ystyried y costau sydd i boblogaeth sy'n heneiddio, yn enwedig costau iechyd a gofal cymdeithasol, mae pobl hŷn yn gwneud cyfraniad net o bron i £6 miliwn y diwrnod i economi Cymru".
Mae gan Gymru gyfeiriad polisi arwyddocaol eisoes lle mae buddsoddi mewn pobl hŷn yn y cwestiwn ac mae canllawiau ar waith i helpu pobl atal y problemau hynny sy’n dod gyda henaint trwy gadw pwysau iach, bwyta'n iach, cadw'n ffit, yfed llai o alcohol a rhoi’r gorau i ysmygu.
Mae'r adroddiad yma’n tynnu sylw at dystiolaeth y gallai buddsoddi mewn rhaglenni i helpu gydag unigrwydd a gwarchod rhag cael codwm neu gwympo arbed arian yn y pen draw ac mae'n cyd-fynd â chynllun newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer 'Cymru Iachach'.
Dywedodd y Dr Llinos Haf Spencer, Swyddog Ymchwil CHEME
"O leihau'r risg o syrthio, a bod llai o bobl yn mynd i’r ysbyty o’r herwydd, mi allai Llywodraeth Cymru arbed arian ar adnoddau'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a chadw pobl hŷn allan o gartrefi gofal preswyl. Mae lle i gredu bod cwympo a brifo’n costio mwy na £2 biliwn i’r gwasanaeth iechyd yn y Deyrnas Unedig bob blwyddyn. Byddai dulliau ataliol megis ffisiotherapi’n gallu arbed 9 mil o bobl hŷn rhag cwympo bob blwyddyn a byddai hynny’n arbed tua £16 miliwn y flwyddyn i’r Gwasanaeth Iechyd".
Dywedodd Bethany Anthony, un o awduron yr adroddiad:
"Mae pobl hÅ·n yn gwneud cyfraniad sylweddol yng Nghymru fel gwirfoddolwyr, sy’n werth £483 miliwn y flwyddyn i economi Cymru, a disgwylir i hyn dyfu i £705 miliwn y flwyddyn erbyn 2020. Mae mwy na hanner y bobl hÅ·n (a thros ddwy ran o dair o’r oedolion hÅ·n 55-64 oed) yn dweud eu bod yn gwneud rhywfaint o wirfoddoli anffurfiol, gan gynnwys gweithgareddau megis cadw mewn cysylltiad â rhywun sy'n gaeth i'r tÅ· a darparu cludiant. Mae un o bob tri o bobl hÅ·n yn dweud eu bod yn gwirfoddoli'n ffurfiol gyda sefydliadau a grwpiau ffurfiol, gan gynnwys gwirfoddoli ar gyfer gweithgareddau ar gyfer plant yn yr ysgol a thu hwnt, chwaraeon ac ymarfer corff, iechyd a gofal cymdeithasol, grwpiau cymunedol, grwpiau ffydd, a gweithio mewn siopau elusennau.â€
Daeth yr awduron i'r casgliad bod galluogi pobl i weithio’n hirach, hwyluso gwirfoddoli a helpu rhieni sy'n gweithio trwy ofalu am wyrion yn fanteisiol iawn yn economaidd o ran gwella lles; lleihau unigrwydd, a chefnogi gwasanaethau cymunedol ffurfiol ac ehangach. Mae cyd-gynhyrchu’n galluogi pobl hŷn i aros yn weithgar yn y gymuned, ac mae manteision deublyg rhwng y cenedlaethau yn y gwasanaethau cymunedol a’r sector cyhoeddus.
Mae llawer o bobl hŷn yn ofalwyr anffurfiol. Mae costau darparu gofal i ofalwyr hŷn sydd angen cymorth cymdeithasol, meddygol a seicolegol. Gall gofalwyr, gan gynnwys y rhai sy’n gofalu am bobl â dementia, fod yn ffactor allweddol o ran cadw rhywun yn ei gartref yn lle mynd i’r ysbyty neu ofal preswyl. Mae yna achos economaidd dros roi blaenoriaeth i helpu gofalwyr hŷn yng Nghymru oherwydd mae mwy o ofalwyr hŷn di-dâl yng Nghymru nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Gorffennaf 2018