Penodiad Polisi Iechyd ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Fe fydd modd astudio Polisi Iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Gwyddor Cymdeithas, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É o fis Hydref eleni yn dilyn penodi’r Dr. Myfanwy Davies yn ddarlithydd yno. Bydd hyn yn gyfrwng i ymestyn y ddarpariaeth bresennol ac yn sail i gynlluniau ymchwil mewn meysydd gwirioneddol arloesol a pherthnasol i’n cyfnod ni.
Brodor o Lanelli yw Myfanwy ac yn dilyn cyfnod o astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, Sheffield a Middlesex fe fu’n gweithio hyd at yn ddiweddar fel ymchwilydd ym myd iechyd yn Ysgol Feddygol, Prifysgol Caerdydd. Ffrwyth ei hymchwil yn y maes a’i dealltwriaeth o fyd iechyd yng Nghymru fu’n sail i’r adroddiad ar Hanesion Ansicrwydd: Agweddau rhieni i’r Brechlyn HPV ar gyfer eu merched gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2011. Fel un sy’n siarad Ffrangeg yn rhugl, bu’n byw am gyfnod yn Aix-en-Provence ac yn ninas Rouen yn Ffrainc ac yn gweithio fel darlithydd ym myd Cymdeithaseg yno ym Mhrifysgolion Aix-Marseille II a Phrifysgol Rouen.
Dywed Myfanwy: ‘Mi fydd y cyfle i weithio mewn Ysgol Gwyddor Cymdeithas sydd wedi sicrhau bri rhyngwladol yn her i mi, ond rwy’n edrych ymlaen at gael bod yn rhan o’r bywyd Cymreig yn y gogledd ac i fanteisio ar arbenigedd cyd-weithwyr yn yr adran arbennig hon’.
Mae’r penodiad hwn, y pedwerydd mewn cyfres o naw darlithyddiaeth yn y Gymraeg ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn ystod y misoedd nesaf, yn gyfrwng cryn gyffro yn y sefydliad. Cafwyd penodiadau eisoes ym myd Cerddoriaeth Boblogaidd, Cerddoriaeth a Ffilm ac Ieithoedd Modern a’r gobaith yw y bydd modd llenwi’r swyddi eraill ym maes Gwyddor Iechyd, Seicoleg, Gwyddor yr Amgylchedd yn fuan.
Dywed Yr Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É: ‘Mae’n fraint o’r mwyaf i ni gael darparu cartref ar gyfer yr ysgolheigion ifanc hyn ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae’r cyfleodd ar eu cyfer yn dda a’r argoelion ar gyfer datblygiadau ym myd dysgu ac ymchwil ym Mangor yn eithriadol o obeithiol’.
Fe fydd modd astudio Polisi Iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg yn Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: ‘Mae'r penodiad yma yn brawf pellach fod academyddion o'r radd flaenaf yn cael eu denu i'r swyddi a gyllidir gan y Coleg. Bydd penodiadau pellach yn cael eu cyhoeddi o fewn yr wythnosau nesaf ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Morgannwg ac Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd. Rydym yn llongyfarch Dr Myfanwy Davies ar ei llwyddiant ac yn dymuno'n dda iddi yn ei swydd newydd ym Mangor, a hynny o fewn adran sydd eisoes yn gwneud cyfraniad allweddol i'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym maes Gwyddorau Cymdeithas’.
Bydd Myfanwy yn cychwyn ar ei swydd newydd ym mis Hydref eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2011