Penodi鈥檙 Athro Jo Rycroft-Malone yn Aelod Annibynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae鈥檙 Athror Jo Rycroft-Malone o Brifysgol 亚洲色吧 wedi ei phenodi fel aelod annibynol o .
Mae'r Athro Rycroft-Malone yn Athro mewn Gwasanaethau Iechyd ac Ymchwil Gweithredu, Pennaeth yr , ac arweinydd academaidd Prifysgol 亚洲色吧 dros effaith. Hyfforddodd fel nyrs yng nghanol yr 1980au yn Llundain ac yn ddiweddarach, graddiodd mewn seicoleg a seicoleg galwedigaethol cyn cael ei PhD o Brifysgol Southampton yn 2002.
Yn rhyngwladol, mae'n adnabyddus am ei hymchwil i sut gallai gwasanaethau iechyd gau'r bwlch rhwng yr hyn a wyddom a'r hyn sy'n cael ei arfer, fel bod y gofal y mae cleifion yn ei gael yn fwy seiliedig ar dystiolaeth. Dros y 5 mlynedd diwethaf, ynghyd 芒'i chydweithwyr, mae wedi datblygu rhaglen Ymchwil Gweithredu sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ym Mhrifysgol 亚洲色吧 (Implement@亚洲色吧), yn cynnwys datblygu'r Ddoethuriaeth Broffesiynol gyntaf mewn Gweithredu.
Jo hefyd yw Cadeirydd presennol Gr诺p Strategaeth Gweithredu'r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE). Mae ar nifer o grwpiau strategaeth, cyllid a grwpiau 'tanc trafod' cenedlaethol yn cynnwys 'Gr诺p Agenda Ymchwil Effeithiolrwydd Clinigol' Prif Swyddog Meddygol (Lloegr), bwrdd comisiynu Rhaglen Gwasanaethau Iechyd a Darparu Ymchwil y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol, Cynllun Cymrodoriaeth Paratoi Gwybodaeth a Phwyllgor Sefydliad Canada ar gyfer Cyfnewid a Chyfieithu Gwybodaeth Ymchwil Iechyd. Jo oedd golygydd cyntaf y cylchgrawn cenedlaethol Worldviews on Evidence-Based Nursing ac ar hyn o bryd mae ar fwrdd golygyddol BioMed Central Implementation Science.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Mai 2014