Penodi Llysgenhadon newydd i鈥檙 Coleg Cymraeg
惭补别鈥檙 wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2020 er mwyn annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
惭补别鈥檙 23 llysgennad wedi鈥檜 lleoli mewn chwe prifysgol ledled Cymru gan gynnwys pum ohonynt ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Bydd Tegwen Bruce-Deans and Aled Si么n Storey Pritchard, o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a Katy Williams a Briall Gwilym o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Iechyd yn dechrau ar eu gwaith fis yma ac yn gyfrifol am gwblhau gwahanol dasgau drwy鈥檙 flwyddyn a bydd Elan Duggan yn parhau am flwyddyn arall.
Eu prif r么l fel llysgenhadon fydd perswadio mwy o ddisgyblion ysgol a cholegau addysg bellach i ddilyn eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno鈥檙 manteision o hynny.
Byddant yn cynrychioli鈥檙 Coleg Cymraeg mewn amryw o ddigwyddiadau megis ymweliadau ysgolion, ffeiriau UCAS ac Eisteddfodau yn ogystal 芒 chofnodi eu profiadau ar flog ac ar sianelau cyfryngau cymdeithasol y Coleg.
Am y tro cyntaf eleni, cafodd y llysgenhadon eu dewis drwy greu fideo hyd at funud o hyd a ffurflen gais.
鈥淩ydym yn hynod gyffrous i allu cyhoeddi ein bod wedi penodi 23 o lysgenhadon newydd o鈥檙 sector addysg uwch ar gyfer 2020. Mae cael criw o bobl ifanc a brwdfrydig yn cydweithio gyda ni i hyrwyddo cyfleoedd astudio yn Gymraeg yn gymorth mawr o ran rhoi darlun positif o bwysigrwydd astudio鈥檔 Gymraeg.
Mae ystod eang o bynciau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein prifysgolion ar draws Cymru bellach a r么l y llysgenhadon fydd egluro鈥檙 manteision o astudio鈥檔 Gymraeg.鈥
Meddai Dr Llion Jones o Ganolfan Bedwyr Prifysgol 亚洲色吧:
鈥淵n ogystal 芒 sicrhau profiad prifysgol rhagorol i鈥檔 myfyrwyr, rydym yn ymfalch茂o yn y ffaith ein bod yn darparu mwy o gyfleoedd i astudio drwy鈥檙 Gymraeg nag unrhyw sefydliad arall. 惭补别鈥檙 pump llysgennad newydd yn rhan o gymuned Gymraeg gref a bywiog ym mhrifysgol 亚洲色吧, ac mae hynny yn rhoi sail gadarn ar gyfer astudio yn Gymraeg.鈥
Gellir dilyn anturiaethau ein llysgenhadon 芒 gweld lluniau鈥檙 unigolion ar wefan y Coleg Cymraeg ac ar dudalen Instagram a Twitter 鈥楧y Ddyfodol Di鈥 a Facebook, You Tube a Snapchat 鈥楥oleg Cymraeg鈥.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2020