Penodi Athro mewn Gwasanaethau Iechyd ac Ymchwil Weithredu yn Gyfarwyddwr newydd Rhaglen Gwasanaethau Iechyd a Chyflawni Ymchwil yr NIHR
Penodwyd Yr Athro Jo Rycroft-Malone, o Brifysgol 亚洲色吧 yn gyfarwyddwr . Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd (NIHR) yw'r corff cyllido mwyaf ar gyfer ymchwil gymhwysol i iechyd yn y Deyrnas Unedig. Bydd yr Athro Rycroft Malone yn dilyn yr Athro Ray Fitzpatrick pan fydd yntau'n camu i lawr o'i swydd yn arwain y rhaglen HS&DR ddiwedd mis Hydref 2015.
Mae gan Yr Athro Rycroft-Malone, sydd 芒'r Gadair mewn Gwasanaethau Iechyd ac Ymchwil Weithredol, enw da rhyngwladol pan ddaw i sicrhau y rhoddir tystiolaeth ar gyfer ymarfer gorau mewn gofal iechyd ar waith. Mae'n astudio'r prosesau, ymyriadau a chanlyniadau ar gyfer gwella gwasanaethau iechyd a chyflawni gofal drwy ymchwil dulliau cymysg.
Yn ogystal 芒 bod yn bennaeth Prifysgol 亚洲色吧, mae'r Athro Rycroft-Malone yn olygydd yr 'International Journal of Health Policy and Management' ac yn aelod o fwrdd golygyddol y BMC Implementation Science ac yn Arweinydd Academaidd ar gyfer Effaith ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Diolchodd y Prif Swyddog Meddygol, Y Fonesig Sally Davies FRS RMedSci, i'r cyfarwyddwr presennol, a chroesawu'r penodiad newydd gan ddweud;
"Mae gan Jo enw da'n rhyngwladol am ymchwil, ac rwy'n si诺r y bydd yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglen, gan alluogi i ragor o ymchwil o ansawdd uchel gael ei chyllido i mewn i ansawdd, hygyrchedd a threfniant gwasanaethau iechyd."
Gan siarad am ei phenodiad, dywedodd yr Athro Rycroft-Malone 鈥淢ae'n bleser gennyf gael fy mhenodi i'r swydd hon, ac rydw i'n edrych ymlaen at arwain Rhaglen Gwasanaethau Iechyd a Chyflawni Ymchwil yr NIHR ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf.鈥
Mae'r Rhaglen Gwasanaethau Iechyd a Chyflawni Ymchwil (HS&DR) yn un o ffrydiau cyllido'r NIHR. Mae'n cyllido amrywiaeth eang o ymchwil i gynhyrchu tystiolaeth drwyadl a pherthnasol ynghylch ar drefn ac ansawdd gwasanaethau iechyd, yn cynnwys costau a chanlyniadau. Mae projectau a gyllidir drwy'r rhaglen hon yn llwyddiannus oherwydd bod ganddynt botensial gwirioneddol i gael effaith gadarnhaol ar y ffordd y cyflwynir gwasanaethau iechyd, ac felly ar ganlyniadau i gleifion.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2014