Pencampwr Codi Pwysau Ewropeaidd yn ennill Gwobr Goffa Llew Rees
Mae Prifysgol 亚洲色吧 wedi dyfarnu ei gwobr chwaraeon uchaf flynyddol, Gwobr Goffa Llew Rees, i Bencampwraig Codi Pwysau Ewropeaidd 2017.
Dyfarnwyd y wobr i Chrystal Williams, 21, o Bolton gan ei bod wedi gwneud y cyfraniad mwyaf i godi proffil chwaraeon Prifysgol 亚洲色吧 drwy ei llwyddiant personol ar lefel ryngwladol.
Mae Chrystal newydd gwblhau ei hail flwyddyn ar y cwrs Seicoleg gyda Niwroseicoleg, ac mae hi wedi cael blwyddyn hynod o lwyddiannus yn cystadlu mewn cystadlaethau rhanbarthol yng ngogledd orllewin Lloegr. Yn dilyn hyn daeth yn gymwys ar gyfer Pencampwriaethau Prydeinig a Chystadlaethau Cenedlaethol Lloegr. Mae Chrystal wedi bod yn cystadlu yn y dosbarth iau dan-84kg am y 18 mis diwethaf, ac mae鈥檔 dal pedair record Lloegr a Phrydain. Mae wedi cynrychioli Prydain sawl gwaith, gan ennill y teitl Pencampwraig Ewrop ar 么l cystadlu yn y Pencampwriaethau Codi Pwysau Clasurol Ewropeaidd a gynhaliwyd yn Denmarc ym mis Mawrth 2017. Daeth yn ail ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Clasurol y Byd ym Melarws ym mis Mehefin 2017, ac ar hyn o bryd mae鈥檔 dal y record Ewropeaidd.
Yn gyn-fyfyrwraig Ysgol Uwchradd Sharples a Choleg Chweched Dosbarth Bolton, mae Chrystal wedi bod yn codi pwysau ers dwy flynedd ar 么l datblygu diddordeb yn ystod ei hail semester yn 2014. Mae Chrystal yn wastad wedi hoffi鈥檙 syniad o fod yn "berson cryf", ond wedi teimlo鈥檔 rhy nerfus i fynd i'r gampfa ar ei phen ei hun. Daeth yn aelod o d卯m p锚l-droed Americanaidd y Brifysgol, a dechreuodd fynd i'r gampfa gyda'i hyfforddwr p锚l-droed a'i ffrindiau. Dywedwyd wrthi fod ganddi nerth naturiol, ac fe鈥檌 hanogwyd i fynd i'r gampfa i ddysgu鈥檙 dechneg gywir, a dyna gychwyn ar ei gyrfa codi pwysau.
Yn falch iawn o dderbyn y wobr, dywedodd Chrystal: "Mae'n anrhydedd ac yn gyflawniad enfawr i gael fy nghydnabod a'm gwobrwyo am y gwaith caled a鈥檙 ymroddiad rydw i wedi ei wneud. Mae'n golygu fy mod wedi gallu gwthio fy hun i lefel benodol, a byddaf yn gallu parhau i symud ymlaen gyda chymorth gan fy mhrifysgol. Mae鈥檙 wobr yn golygu llawer oherwydd, yn ogystal 芒 chymorth ariannol i helpu i ariannu offer a chystadlaethau, mae'n dangos imi fod fy mhrifysgol a llawer o rai eraill yn fy annog ac yn gweld fy mhotensial, ac yn barod i wobrwyo fy nghyflawniadau. Mae 亚洲色吧 wedi rhoi鈥檙 cyfle i mi ac eraill sefydlu Clwb Codi Pwysau a chodi mwy o ymwybyddiaeth am godi pwysau, ac rydw i鈥檔 ddiolchgar iawn am eu cymorth.
"Yn y dyfodol rwy鈥檔 gobeithio datblygu ymhellach a hyfforddi gan fy mod bellach yn hyfforddwr cymwysedig codi pwysau lefel 1. Hoffwn barhau fy nghapteiniaeth Clwb Codi Pwysau Prifysgol 亚洲色吧 a helpu eraill mewn unrhyw ffordd y gallaf, yn ogystal 芒 chyflwyno chwaraeon i fwy o fyfyrwyr. Hoffwn barhau i gystadlu鈥檔 genedlaethol ac yn rhyngwladol i weld pa mor bell y gallaf lwyddo. Mae hyn wedi bod yn brofiad gwych gan ganiat谩u imi gwrdd 芒 phobl anhygoel, a theithio o amgylch Prydain a thu hwnt. Edrychaf ymlaen at fwy o gyfleoedd a fydd yn deillio o hyn wrth imi barhau i gryfhau鈥檔 gorfforol ac yn feddyliol."
Yn ogystal y flwyddyn hon, dyfarnwyd lliwiau llawn iddi, gwobr las, a鈥檙 anrhydedd o鈥檌 henwi鈥檔 Fenyw Chwaraeon y Flwyddyn yng nghinio blynyddol Undeb Athletaidd y Brifysgol lle enillodd y Clwb Codi Pwysau鈥檙 wobr 'Clwb y flwyddyn' ym mlwyddyn ei sefydlu.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mehefin 2017