Pam mae alcohol yn gwneud rhai pobl yn dreisgar
Astudiaeth genedlaethol yn trafod peryglon oedolion 芒 phlentyndod trawmatig sy鈥檔 yfed yn drwm
Mae yfwyr trymach yn llawer mwy tebygol o fod yn rhan o drais os ydynt wedi dioddef lefelau uchel o Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEsi), yn 么l astudiaeth newydd.
Mae'r cysylltiad rhwng ACE, alcohol a thrais yn amlwg iawn ymhlith dynion ifanc (18-29 oed), gyda 62 y cant o'r rhai 芒 lefelau uchel o ACE sy'n yfwyr trymachii wedi taro rhywun yn y 12 mis blaenorol. Mae hyn yn cymharu 芒 13.5 y cant ymhlith yfwyr trymach heb ACE.
Mae'r astudiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol 亚洲色吧 o 12,669 o oedolion ledled Cymru a Lloegr yn cael ei chyhoeddi heddiw yn y cyfnodolyn meddygol, BMJ Open. Mae'r canlyniadau'n dangos:
- Roedd 1.3 y cant o ddynion heb ACE a oedd yn yfwyr cymedrol neu ddim yn yfed o gwbl wedi taro rhywun yn y 12 mis diwethaf. Cododd hyn i 3.6 y cant ymhlith y rhai heb ACE a oedd yn yfwyr trymach. Fodd bynnag, cododd y lefelau i 28.3 y cant ymhlith y rhai a oedd yn yfwyr trymach ac wedi profi lefelau uchel o ACE (pedwar neu ragor o fathau o ACE) fel plentyn
- Roedd y cyfuniad o ACE ac yfed trymach yn cynyddu'r risgiau o drais diweddar mewn unigolion o bob oedran a astudiwyd (hyd at 69 oed). Fodd bynnag, roedd yr effaith yn arbennig o amlwg mewn dynion ifanc 18-29 oed, gyda mwy na chwech o bob 10 (62 y cant) o'r rhai a oedd yn yfwyr trymach ac 芒 lefelau uchel o ACE wedi taro rhywun yn y 12 mis diwethaf
- Roedd y ffigur cyfatebol ar gyfer menywod yn is ond yn dal yn sylweddol. Roedd tua un o bob pedwar (24.1 y cant) o fenywod 18-29 oed a oedd yn yfwyr trymach ac 芒 lefelau uchel o ACE wedi taro rhywun yn y 12 mis diwethaf
- Yn gyffredinol, roedd 8.6 y cant o ddynion yn y sampl genedlaethol hon wedi nodi lefelau uchel o ACE yn eu gorffennol ac roedd dros hanner y rhai ag ACE uchel wedi nodi lefelau yfed uwch hefyd. O ganlyniad, roedd un o bob 20 o'r holl ddynion a astudiwyd wedi nodi'r cyfuniad mwyaf treisgar o hanes o ACE uchel ac yfed mwy o alcohol
Meddai'r Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac awdur arweiniol yr astudiaeth:
鈥淕wyddom fod pobl sy'n dioddef lefelau uchel o adfyd yn eu plentyndod yn gallu ei chael yn fwy anodd rheoli eu hemosiynau pan maent yn oedolion, gan gynnwys teimladau ymosodol. Mae ein canlyniadau'n awgrymu pan maent hefyd yn yfwyr trymach gall hyn erydu eu rheolaeth ymhellach a chynyddu'r risg y byddant yn dreisgar.
鈥淵n anffodus, mae ein canlyniadau hefyd yn awgrymu bod unigolion a gafodd eu cam-drin a'u hesgeuluso fel plant neu'n agored i drawma megis rhieni'n ymladd yn eu cartref hefyd yn debygol o fod yn yfwyr trymach. Mewn llawer o amgylchiadau gall yfed yn drymach fod yn rhywbeth a ddechreuwyd ganddynt er mwyn ymdopi 芒 thrawma yn ystod plentyndod.
鈥淵n anffodus, mae cymysgedd gwenwynig o drawma yn ystod plentyndod ac yfed llawer o alcohol pan fyddant yn oedolion yn gyffredin, a gwelsom y cyfuniad hwn mewn un o bob 20 o'r holl ddynion a holwyd gennym. Mae unigolion o'r fath fwy nag 20 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi taro rhywun yn y 12 mis diwethaf o gymharu ag yfwyr lefel is a gafodd blentyndod heb adfyd.鈥
Nododd canlyniadau eraill o'r astudiaeth berthnasoedd tebyg rhwng ACE, y defnydd o alcohol a dioddef trais yn ddiweddar.
- Mewn menywod heb hanes o ACE a oedd yn yfwyr cymedrol neu ddim yn yfed o gwbl, roedd llai nag un y cant (0.8%) wedi cael eu taro yn y 12 mis diwethaf ond cododd hyn i 13 y cant ymhlith y rhai 芒 lefelau uchel o ACE ac a oedd yn yfed mwy o alcohol
- Ymhlith dynion roedd y gwahaniaeth hwn hyd yn oed yn fwy amlwg gan godi o 1.9 y cant (dim ACE ac yfed ychydig iawn o alcohol neu ddim o gwbl) i 32 y cant (lefelau uchel o ACE ac yn yfed mwy o alcohol)
Meddai'r Athro Karen Hughes o Goleg Gwyddorau Dynol Prifysgol 亚洲色吧, cyd-awdur yr astudiaeth: 鈥淥s byddwch yn taro rhywun rydych yn fwy tebygol o gael eich taro eich hun a gall hyn fod yn rhan o'r esboniad pam mae pobl sy'n yfwyr trymach ar hyn o bryd ac a chanddynt hanes o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn fwy tebygol o fod wedi dioddef trais yn ddiweddar.鈥
鈥淔odd bynnag, i rai pobl bydd eu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi cynnwys dioddef trais a gweld trais domestig yn eu cartrefi. Efallai y bydd rhai menywod sy'n profi plentyndod o'r fath yn credu bod dioddef trais domestig i'w ddisgwyl ac felly maent yn aros mewn perthynas gamdriniol ac yn defnyddio alcohol fel ffordd o ymdopi.鈥
Mae'r papur yn dod i'r casgliad bod canlyniadau'n ategu doethineb a sefydlwyd ers dros ddwy fil o flynyddoedd fel in vino veritas (mae'r gwirionedd mewn gwin) sy'n awgrymu y gall alcohol amlygu nodweddion sylfaenol y bydd pobl yn dymuno eu hatal fel arall.
Gwnaeth yr astudiaeth gyfuno data o bedair astudiaeth a gynhaliwyd yng Nghymru a Lloegr rhwng 2012 a 2015.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2018