O鈥檙 Fainc at Ymyl y Gwely a Thu Hwnt
Cafodd Prifysgol 亚洲色吧 ganmoliaeth fawr wrth lansio ei sefydliad newydd arloesol ddydd Iau (25 Chwefror).
Bydd Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol 亚洲色吧 yn cynnal y gwaith ardderchog y mae 亚洲色吧 eisoes yn ei wneud o ran ymchwil iechyd a meddygol ac yn ymestyn arno drwy ddwyn ynghyd academyddion o fri o ystod eang o feysydd.
Bydd y Sefydliad nid yn unig yn gwella ac yn cael effaith ar ofal iechyd yng Nghymru, ond hefyd ar draws y Deyrnas Unedig a'r byd.
Agorwyd y digwyddiad yn Neuadd Reichel gan y Dirprwy i'r Is-Ganghellor, yr Athro David Shepherd, cyn cael anerchiadau byr gan sawl ffigwr amlwg gan gynnwys Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru, yr Athro Julie Williams CBE, a Phrif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Ruth Hussey OBE. Yn ymuno 芒 nhw roedd yr Athro Jo Rycroft-Malone, sydd, yn ogystal 芒 bod yn Ddirprwy Is-Ganghellor Ymchwil yn y Brifysgol, hefyd yn Gadeirydd Rhaglen Gwasanaethau Iechyd a Chyflawni Ymchwil, y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd.
Amlinellodd yr Athro Rycroft-Malone sut y bydd y Sefydliad yn cael effaith uniongyrchol ar ymarfer a pholisi, gan gael effaith uniongyrchol ar ofal iechyd a chadarnhau'r ethos ymchwil a olygodd fod 亚洲色吧 yn drydydd ymhlith 94 o sefydliadau ar gyfer allbynnau ymchwil iechyd yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014. Bydd y sefydliad yn cyfrannu at wella profiad y claf trwy ddwyn ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth i amgylcheddau clinigol.
Dywedodd yr Athro Rycroft-Malone: 鈥淏yddwn yn parhau i ddathlu canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 a'n gosododd yn drydydd o blith 94 o Brifysgolion yn y Deyrnas Unedig o ran ansawdd ein hallbynnau ymchwil iechyd. Bydd y Sefydliad yn gatalydd ar gyfer ein helpu i fynd i'r afael 芒 heriau iechyd pwysicaf ein cymdeithas.鈥
Mae'r Athro Williams, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Cymru, yn arbenigo mewn ymchwil i'r clefyd Alzheimer. Dangosodd sut fod Cymru'n cyflawni mwy na'i si芒r o ran ymchwil o gymharu 芒 chyfartaledd y Deyrnas Unedig. Roedd wrth ei bodd yn gweld bod 亚洲色吧 yn cael effaith mor gadarnhaol. Dywedodd, 鈥淒w i'n teimlo'n gyffrous iawn am y fenter newydd yma, a dwi'n edrych ymlaen at ei gweld yn datblygu.鈥 Aeth ymlaen i wneud y sylw bod 鈥淵mchwil ym Mangor eisoes yn cael effaith yn rhyngwladol, ac fe fydd y Sefydliad hwn yn adeiladu ar hynny. Ymhlith cryfderau Prifysgol 亚洲色吧 mae gofal iechyd cymhwysol sy'n berthnasol i ymarfer clinigol, ond bydd yr ymchwil yma'n dod 芒 hyd yn oed rhagor o syniadau. Yr unig ffordd o gynyddu nifer yr ymchwilwyr yw drwy ddwyn ein cryfderau ynghyd.鈥
Siaradodd Dr Hussey, Prif Swyddog Meddygol Cymru, sy'n wreiddiol o Fangor, am yr heriau iechyd y bydd Cymru yn eu hwynebu yn y dyfodol. Dywedodd: 鈥淢ae gan Brifysgol 亚洲色吧 eisoes hanes da o ran ymchwil. Caiff y Sefydliad effaith enfawr, a bydd gobeithio yn ateb rhai o'r cwestiynau y mae'r gwasanaeth iechyd angen atebion iddynt, megis pa mor gost-effeithiol yw triniaethau. Bydd yn cael effaith ar ofal sylfaenol, yn ogystal 芒 llywio polisi yn ehangach a rhoi arweiniad i lywodraethau.鈥
Astudiodd Dr Peter Higson ym Mangor ac mae ar hyn o bryd yn Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ategodd ddau o nodau creiddiol Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol 亚洲色吧 drwy ddweud 鈥淏ydd yr ymchwil yn arwain at well gwasanaethau, gan wella sut mae gweithwyr proffesiynol yn cael eu recriwtio i weithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Dyma ddechrau pennod dda o gydweithio, a bydd hyn yn creu awyrgylch dda ar gyfer ymchwil. Er mwyn cynorthwyo ag Ymchwil Iechyd a Meddygol, bydd Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol 亚洲色吧 yn rhoi llwyfan i ymchwilwyr ymgymryd ag ymchwil o'r safon uchaf. Bydd dod ag academyddion blaenllaw o bob rhan o'r proffesiwn ynghyd yn arwain at ragor o gyfleoedd ar gyfer gwneud gwaith rhyngddisgyblaethol mewn ymchwil glinigol a chymhwysol a thrwy weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bydd Prifysgol 亚洲色吧, nid yn unig yn denu'r ymchwilwyr meddygol ac iechyd gorau i ogledd Cymru, ond bydd hefyd yn creu amgylchedd lle mae ymchwil yn ffynnu o fewn y GIG yn yr ardal leol.鈥
Gan Mark Barrow - Myfyriwr Prifysgol 亚洲色吧.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2016