Nodweddion gwrywaidd yn cefnogi theori "ymennydd gwrywaidd eithafol" anhwylder sbectrwm awtistaidd
Mae ymchwil diweddar gan Brifysgol 亚洲色吧 wedi datgelu agwedd newydd ar theori hirsefydlog ym maes anhwylder sbectrwm awtistaidd (ASA).
Mae'r theori "ymennydd gwrywaidd eithafol" a gynigiwyd gan Simon Baron-Cohen, yn damcaniaethu bod ASA yn ganlyniad i lefelau testosteron dyrchafedig cyn-geni. Mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn y cyfnodolyn Clinical Psychological Science, ymchwiliodd Naomi Scott a chydweithwyr yn Prifysgol 亚洲色吧 i oblygiadau posib hynny ar ymddangosiad corfforol a gysylltir ag ASA.
Cr毛wyd dau set o ddelweddau cyfansawdd ganddynt o ymddangosiad wyneb unigolion sy'n sgorio'n uchel ac yn isel o ran symptomau ASA. Pan ddadansoddwyd y delweddau hyn canfuwyd bod gwrywod gyda mwy o symptomau ASA wedi鈥檜 graddoli鈥檔 fwy gwrywaidd eu hymddangosiad.
Nid yn unig mae'r canfyddiadau hyn yn cynnig cefnogaeth i theori Baron-Cohen ond hefyd yn cysylltu nodweddion ac ymddygiad corfforol trwy effeithiau hormonaidd. Mae goblygiadau hyn yn ddeublyg; yn gyntaf o safbwynt clinigol maent yn arddangos bodolaeth nodweddion wyneb sy'n gysylltiedig ag ASA y mae modd eu nodi gan arsylwyr heb hyfforddiant - bod ymddangosiad wynebau gwrywod ag ASA yn hynod wrywaidd. Yn ail mae canlyniadau cymdeithasol i'r canfyddiadau hyn. Mae dynion gwrywaidd iawn yn cael eu hystyried yn ddominyddol ac ymosodol, nodweddion nad ydynt yn gydnaws 芒'r ddirnadaeth glasurol o unigolion ag ASA.
Dywedodd Naomi Scott, a gwblhaodd yr ymchwil hwn fel rhan o PhD a gyllidwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol:
"Un o ganlyniadau ASA yw amhariad ar sgiliau cymdeithasol ac mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu rhwystr pellach i'w oroesi gan unigolion 芒'r anhwylder. Byddwn yn gwneud asesiadau am bersonoliaeth unigolyn o'r olwg gyntaf gan ddefnyddio ciwiau o nodweddion wyneb, a byddwn yn eu defnyddio wedyn i fesur sut i ymwneud 芒鈥檙 unigolyn hwnnw. Os nad yw'r ciwiau hyn yn gyson ag ymddygiad y person, gall y cyd-ymwneud gael ei wyrdroi o'r cychwyn, gan chwyddo problemau sgiliau cymdeithasol sydd eisoes yn bodoli gan unigolion ag ASA."
Scott, N. J., Jones, A. L., Kramer, R. S. S., & Ward, R. (Yn y wasg) 鈥.鈥 Clinical Psychological Science. 鈥
Dyddiad cyhoeddi: 10 Rhagfyr 2014