Nid yw pympiau inswlin yn well - er eu bod yn ddrutach - na phigiadau i blant yn y flwyddyn gyntaf ar 么l cael diagnosis gyda Diabetes Math 1
Arweiniodd Dr Colin Ridyard a'r Athro Dyfrig Hughes o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) y dadansoddiad economaidd iechyd mewn astudiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar oedd yn archwilio a yw inswlin a roddir trwy bwmp yn fwy effeithiol a chost-effeithiol na phigiadau i fabanod, plant a phobl ifanc a oedd newydd gael diagnosis gyda diabetes math 1.
Canfu'r treial clinigol, a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd ac a arweinwyd gan Dr Joanne Blair o'r Alder Hey NHS Foundation Trust, nad oedd rheolaeth glwcos gwaed plant yn well o'i drin 芒 chwistrelliad inswlin barhaus o dan y croen o'i gymharu 芒 chwistrelliadau lluosog. Ond mae pympiau inswlin yn costio 拢1,863 yn ychwanegol fesul claf bob blwyddyn, sy'n golygu nad yw'r GIG yn argymell defnydd rheolaidd o bympiau yn ystod y flwyddyn gyntaf o driniaeth.
Mae CHEME yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol 亚洲色吧 yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd. Mae'r astudiaeth ar gael trwy'r cyswllt canlynol:
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2018