Myfyrwyr ÑÇÖÞÉ«°É yn ‘Brolio’’u ffordd i lwyddiant yn her y Senedd
Mae tri myfyriwr o'r wedi gwnaed argraff dda ar banel o brif farchnatwyr Cymru ac ennill cynnig busnes cystadleuaeth Brolio (The Pitch) yn ddiweddar (23 Chwefror), her a osodwyd gan Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM) a Syniadau Mawr Cymru.
Curodd y Tîm ÑÇÖÞÉ«°É myfyrwyr o brifysgolion ledled Cymru a fu’n cyflwyno’u syniadau ar gyfer Brolio Syniadau Mawr Cymru, a arweinir gan y Llywodraeth, gyda’r nod o ysbrydoli pobl ifanc i ddechrau busnesau eu hunain.
Rhoddwyd brîff manwl i’r myfyrwyr a gofynnwyd iddynt ystyried cyllidebau, negeseuon ac offer marchnata yn eu cyflwyniadau, er mwyn rhoi iddyn nhw ddealltwriaeth o'r sefyllfa busnes go iawn.
Myfyrwyr ôl radd yn astudio yw’r myfyrwyr llwyddiannus, Chris Shenton, 25, Federica Gherardi, 23, Lucas Michaut, 22 a oedd yn cystadlu o dan yr enw Trifecta Marketing Solutions. Cyflwynodd eu hymgyrch buddugol 'Do it your way' i'r beirniaid drwy edrych ar y pedair nodwedd personoliaeth allweddol entrepreneur: yr angen am lwyddiant; locws mewnol o Reolaeth; angen am ymreolaeth a chymryd risg.
Eu negeseuon allweddol oedd: Risg - weithiau, rhaid i chi gymryd y cyfle; Ymreolaeth - rwy'n gwneud fy newisiadau fy hun; Rheoli - rwy’n bwrw iddi; Cyrhaeddiad - Rwyf bob amser yn geffyl blaen. Eu hawgrymiad oedd am wefan ‘Do it your way’ rhyngweithiol efo cyswllt i Facebook, a fysai’n cynnwys fideos gan ddefnyddwyr yn ogystal â fforwm ar gyfer cyngor a chefnogaeth gan gyfoedion.
Ochr yn ochr â'u rhagoriaeth greadigol roeddent wedi sicrhau bod yr ymgyrch gyfan wedi'i gostio'n llawn gyda thargedau CAMPUS.
Dwyedodd James Intriligator, arweinydd y tim ac Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg y Cwsmer ym Mangor: "Rwyf yn falch iawn for myfyrwyr o Fangor wedi gwneud cystal yn wyneb cystadleuaeth ffyrnig o brifysgolion eraill. Mae sgiliau gwaith yn fater sy'n cael sylw mawr ym Mangor ac mae'r sgiliau ennillodd y myfyrwyr wrth gymryd rhan yn y digwyddiad hwn yn mynd i fod o fantais mawr iddynt wrth geisio am swyddi ar ol graddio."
Meddai aelod o’r Tîm Federica Gherardi, 23,: "Rwy'n falch iawn fod y beirniaid wedi’u plesio gyda'n syniad. Bydd ennill y gystadleuaeth yn sicr yn ychwanegiad fy CV! Roedd Brolio yn gyfle gwych i weithredu’r sgiliau yr ydym wedi dysgu a gobeithio bydd yn gam tuag at gael swydd yn y diwydiant marchnata."
Dywedodd Richard Houdmont, Cyfarwyddwr Cymru o Sefydliad Siartredig Marchnata,: "Cafodd Brolio ei greu i’r cyfle i fyfyrwyr marchnata yng Nghymru ddefnyddio’u sgiliau mewn cyd-destun busnes go iawn, profiad amhrisiadwy wrth ganfod swydd yn y diwydiant marchnata.
"Dangosodd Trifecta Marketing Solutions dawn greadigol, meddwl strategol ac arbenigedd ariannol, a chafodd y Tîm y cyfle i arddangos y sgiliau hyn i rai o gymeriadau mwyaf y diwydiant."
Siaradodd Alun Davies AC, Dirprwy Weinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd, yn y digwyddiad. Fe ychwanegodd: "Roedd yn bleser fynychu Brolio a chyflwyno'r gwobrau. Mwynheais wrando ar y Brolio a ges argraff bositif o syniadau’r bobl ifanc a gymerodd ran. Roedd y digwyddiad yn gyfle delfrydol i bobl ifanc rannu’u doniau a syniadau ar gyfer yr ymgyrch Syniadau Mawr Cymru."
Roedd y panel beirniaid yn cynnwys James Taylor, entrepreneur ifanc a sylfaenydd Superstars, Roger Pride, Rheolwr Gyfarwyddwr Cardiff & Co a Jade Bourke, Rheolwr Marchnata gyda DS Smith Recycling ac enillydd Marchnatwr Newydd yn Canmol 2011: Gwobrau Marchnata Cymru. Derbyniodd pawb a fu’n cystadlu tystysgrifau, tra bod y myfyrwyr a enillodd yn derbyn Aelodaeth Gysylltiol CIM Proffesiynol am flwyddyn.
Gwyliwch sianel Brolio ar
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2012