Myfyriwr PhD yn y Gwyddorau Meddygol yn cael Gwobr Rhagoriaeth Cyrhaeddiad gan Lysgennad Sawdi-Arabia
Roedd Othman Alzahrani, myfyriwr ar drydedd flwyddyn ei PhD mewn Bioleg Foleciwlaidd a Geneteg, yn un o ddim ond 78 (o blith 15000 o fyfyrwyr Sawdi-Arabia yn y Deyrnas Unedig) i dderbyn Gwobr Rhagoriaeth Cyrhaeddiad gan Deyrnas Sawdi-Arabia. Mewn cydnabyddiaeth o'r anrhydedd hon bydd enw Othman yn cael ei ysgythru ar restr anrhydeddau Llysgenhadaeth Sawdi-Arabia yn Llundain. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Llysgenhadaeth Sawdi-Arabia yn Llundain yn ddiweddar ac yn y llun gwelir Othman yn derbyn ei dystysgrif gan Ei Fawrhydi'r Tywysog Mohammed bin Nawaf bin Abdul Aziz Al Saud, LlysgennadSawdi-Arabia i'r Deyrnas Unedig.
Mae gwaith Othman yn rhoi sylw i ddeall sail foleciwlaidd targed cyffur canser posibl y mae ganddo swyddogaeth, nid yn unig mewn oncogenesis, ond hefyd wrth reoleiddio ymddygiad. Cyhoeddodd rywfaint o'r gwaith hwn yn ddiweddar mewn cyfnodolyn canser uchel ei barch a chyflwyno poster am y gwaith yn Japan. Caiff PhD Othman ei gyllido gan ei brifysgol ei hun, sef Prifysgol Tabuk, a bydd yn dychwelyd i Tabuk i sefydlu gr诺p ymchwil newydd mewn Bioleg Foleciwlaidd wedi iddo orffen ei ymchwil ym Mangor.
Dywedodd Dr Ramsay McFarlane, Cyfarwyddwr Ymchwil yr Ysgol Gwyddorau Meddygol, "Mae Othman yn fyfyriwr PhD ymroddedig a gweithgar ac mae ei ymchwil yn llawn addewid ac rydw i wrth fy modd bod ei gyfraniad i ymchwil canser ym Mhrifysgol 亚洲色吧 wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth Sawdi-Arabia. Wedi iddo orffen ei PhD bydd yn dychwelyd i Tabuk lle bydd y profiadau y mae wedi eu cael ym Mangor yn rhoi sylfaen ardderchog iddo wrth sefydlu gr诺p ymchwil newydd mewn Bioleg Foleciwlaidd yno a fy ngobaith i yw y bydd hynny yn arwain at gydweithio yn y dyfodol rhwng 亚洲色吧 a Tabuk."
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2016