Myfyriwr o Brifysgol 亚洲色吧 ar restr fer 'Myfyriwr PhD y Flwyddyn' mewn gwobrau newydd i 么l-raddedigion
Mae un o fyfyrwyr Prifysgol 亚洲色吧, Ashleigh Johnstone, o Douglas, Ynys Manaw, wedi cyrraedd y rhestr fer am wobr genedlaethol newydd.
Roedd Ashleigh ymhlith dros 140 o fyfyrwyr PhD a enwebwyd ac mae ar y rhestr fer yn y dosbarth yn y gwobrau gan FindAMasters.com a FindAPhD.com.
Derbyniodd trefnwyr y gystadleuaeth enwebiadau o safon uchel iawn, gyda llawer o storiau rhyfeddol am allu a dyfalbarhad myfyrwyr. Mae'r panel beirniaid yn cynnwys arbenigwyr ar draws y sector addysg, a byddant yn cyhoeddi'r enillwyr ddiwedd mis Gorffennaf.
Ar 么l astudio am ei gradd gyntaf mewn Seicoleg gyda Niwroseicoleg ac MSc mewn Ymchwil Seicolegol yn Ysgol Seicoleg y brifysgol, mae Ashleigh bellach yn astudio am PhD mewn Seicoleg, lle mae'n asesu manteision gwybyddol hyfforddiant crefft ymladd.
Meddai Ashleigh, sy'n gyn-ddisgybl o St Ninian's High School:
鈥淢ae'n fraint i mi gael fy rhoi ar y rhestr fer am wobr Myfyriwr PhD y Flwyddyn. Rydw i wedi mwynhau gweithio ar y project yma'n fawr iawn ac felly mae'n anhygoel gweld fy ngwaith yn cael ei gydnabod yn y ffordd hon. Rwy'n wirioneddol ddiolchgar i'm goruchwyliwr, Dr Paloma Mari-Beffa, am fy nghefnogi drwy gydol yr amser ac am fy enwebu am y wobr hon.
鈥淒wi'n wir wedi mwynhau fy amser ym Mangor - mae'r ffaith fy mod i'n dal yma ar 么l gwneud BSc ac MSc yn tystio i hynny! Mae'r staff bob amser wedi bod mor gefnogol, gan fy annog i barhau i anelu'n uwch a pheidio byth 芒 rhoi'r gorau iddi.鈥
Bydd enillydd Myfyriwr PhD y Flwyddyn yn derbyn gwobr ariannol o 拢500 fel cydnabyddiaeth am eu holl waith caled, a'u hymroddiad fel myfyriwr 么l-radd. Byddant hefyd yn ymddangos yn ein tudalennau blog a fydd yn rhoi sylw i'w llwyddiant hyd yn hyn, eu cais llwyddiannus, a thrafod effaith eu hastudiaethau a beth yw'r cam nesaf iddynt.
Dywedodd Andy Pritchard, Rheolwr Gyfarwyddwr FindAUniversity Ltd.:
鈥淢ae ein Gwobrau 脭l-raddedig yn tystio i'n hymrwymiad parhaus i ddathlu llwyddiannau myfyrwyr 么l-raddedig a staff. Rydym eisiau rhoi amlygrwydd i'w cyflawniadau a'u cydnabod nid yn unig am eu teilyngdod academaidd neu ragoriaeth wrth addysgu, ond am bopeth arall hefyd sy'n gysylltiedig 芒 bod yn fyfyriwr 么l-radd. Rydym wedi cael ein syfrdanu gan nifer y ceisiadau o ansawdd uchel a darllen y straeon a'r profiadau nad ydynt bob amser yn cael eu rhannu ond sy'n ysbrydoli a chalonogi rhywun yn fawr iawn. 鈥
Yn ddiweddar, fe wnaeth Ashleigh, sy'n 25 oed, hefyd ennill Gwobr Addysgu yn y brifysgol.
Ychwanegodd: 鈥淒wi ddim yn meddwl y byddai hyn wedi bod yn bosibl heb awyrgylch gefnogol yr Ysgol Seicoleg. Dwi wirioneddol wedi ceisio gwneud y gorau o'm hamser fel myfyriwr ym Mhrifysgol 亚洲色吧, ac mae'n rhyfeddol ei weld yn talu ar ei ganfed - mae'n gwneud i mi deimlo'n bur emosiynol a dweud y gwir! 鈥
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2019