Myfyriwr arobryn yn paratoi ar gyfer astudio PhD
Mae gweithio鈥檔 galed a bod yn benderfynol wedi talu ar ei ganfed i fyfyriwr o Brifysgol 亚洲色吧 yr wythnos hon wrth iddo raddio 芒 gradd dosbarth cyntaf yn ogystal ag ennill rhai o brif wobrau鈥檙 Brifysgol.
Graddiodd Robin Owen o Benygroes, sy鈥檔 21 oed ac yn gyn-ddisgybl o Ysgol Dyffryn Nantlle, 芒 gradd BSc dosbarth cyntaf mewn Gwyddor Chwaraeon ac Addysg Gorfforol. Enillodd Robin wobr Dr John Robert Jones sy鈥檔 werth 拢1500, a ddyfernir yn flynyddol i dri o'r myfyrwyr gorau ar draws pob disgyblaeth yn y Brifysgol. Hefyd, enillodd wobr Sarah Smythe am y marc uchaf yn ystod y flwyddyn mewn gradd gwyddorau chwaraeon yn ogystal 芒 Gwobr Prosiect Seicoleg am y marc uchaf yn ystod y flwyddyn mewn prosiect rheolaeth echddygol/seicoleg chwaraeon.
Ganed Robin yn Awstria a symudodd i ogledd Cymru gyda'i deulu yn 2004.
Dywedodd Robin: "Dwi鈥檔 caru gogledd Cymru, ac yn ffodus i mi, mae gan yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mangor enw gwych. Wnes i ddim yn eithriadol o dda yn fy arholiadau TGAU a Lefel A, er bod yr athrawon wedi bod yn wych, ond ar ddechrau fy ngradd mi wnes i benderfynu gwneud cymaint o ymdrech ag y medrwn i. Felly, dw i ar ben fy nigon fy mod i wedi ennill gwobr John Robert Jones!鈥
"Yn ystod y tymor roeddwn yn hyfforddi ac yn gwirfoddoli yn fy ysgol leol a gyda chlybiau chwaraeon ym Mangor. Roedd cydbwyso gwaith Prifysgol a鈥檙 ymrwymiadau hyn yn eithaf trwm weithiau. Ro鈥檔 i hefyd yn gysylltiedig 芒 , cyfres deledu gan S4C lle roedd t卯m o famau a thadau o d卯m p锚l-droed Iau yn Amlwch yn cystadlu am y cyfle i chwarae yn erbyn t卯m o rieni o Lydaw yn Ffrainc yn ystod Ewro 2016. Roedd yn gyfle gwych i weithio gydag Owain Tudur Jones, cyn-chwaraewr i d卯m Abertawe.鈥
"Hanner ffordd drwy fy nhrydedd flwyddyn penderfynais i wneud cais am Ysgoloriaeth PhD ym Mangor. Bydd y PhD yn canolbwyntio ar sgiliau caffael - ac mae hynny'n rhywbeth y mae gen i ddiddordeb mawr ynddo fo o ganlyniad i鈥檙 holl waith hyfforddi dw i wedi'i wneud. Ro鈥檔 i鈥檔 gwybod fy mod i o dan anfantais fawr gan nad oes gen i radd Meistr, heb s么n am y ffaith nad oeddwn wedi graddio, felly roedd cael cynnig cyfweliad yn beth eithaf annisgwyl! Ar 么l llawer o waith paratoi fe wnes i guro鈥檙 holl ymgeiswyr eraill; dwi ddim yn gwybod os bydda i fyth mor hapus eto 芒鈥檙 adeg y ces i wybod fy mod i鈥檔 mynd i fod yn dechrau gwneud PhD ym mis Gorffennaf!"
Straeon perthnasol:
Myfyrwyr Prifysgol 亚洲色吧 yn cynorthwyo t卯m p锚l-droed newydd yn Amlwch
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2016