Myfyriwr ac aelod staff o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cael eu dewis ar gyfer Pencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop 2016
Mae myfyrwraig ac aelod staff o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi cael eu dewis i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Ewrop, a gynhelir yn Førde, Norwy rhwng 10-16 Ebrill.
Mae pencampwraig godi pwysau bresennol Cymru, Hannah Powell, 22, myfyriwr yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, a Gareth Evans, Cynorthwyydd Chwaraeon yng Nghanolfan Brailsford, Canolfan Chwaraeon y Brifysgol, wedi cael eu dewis i gynrychioli Prydain mewn tîm o 14 ar gyfer y rhagbrofion terfynol i’r gemau Olympaidd.
Mae hon yn gystadleuaeth hynod o bwysig, a dyma’r cyfle olaf i athletwyr Prydeinig ennill eu lle yn y Gemau Olympaidd yr haf hwn yn Rio. Gyda lle i ddim ond un dyn ac un ferch ar gael os enillir digon o bwyntiau i’r tîm, bydd hyn yn gwarantu cyffro a chystadleuaeth ddwys lle bydd aelodau tîm Prydain yn brwydro am le ar y brig. Bydd angen i dîm y dynion orffen yn y saith uchaf, a'r merched yn y chwech uchaf, ymysg y gwledydd hynny sydd heb gymhwyso eisoes i sicrhau lle unigol yn y Gemau.
Bydd yn gystadleuaeth allweddol i lawer o genhedloedd Ewrop sy’n anelu at sicrhau eu lle yn Rio, a bydd 411 o athletwyr o dros ddeugain o wledydd Ewrop yn cystadlu yn ystod yr wythnos yn arena codi pwysau Førdehuset.
Ynglŷn â dewis y tîm, meddai Ashley Metcalfe, Prif Swyddog Gweithredol Codi Pwysau Prydain: "Rydym yn anfon ein tîm cryfaf i Norwy ar gyfer y Pencampwriaethau, gyda'r nod o sicrhau lleoedd Olympaidd i'r tîm dynion a'r tîm menywod; bydd hyn yn eithriadol o anodd, gyda nifer o genhedloedd Ewrop yn dal i ymladd am yr ychydig leoedd sy'n weddill ar gyfer Rio. Rydym yn hyderus fod paratoadau ein hathletwyr yn rhoi arwyddion calonogol iawn eu bod am roi perfformiadau o’r safon uchaf a bod ganddynt gyfle da iawn i gymhwyso ar gyfer tîm Prydain fis nesaf."
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Perfformiad Codi Pwysau Prydain, Tommy Yule, "Mae ennill lle yng Ngemau Olympaidd yr haf hwn yn parhau i fod yn hynod o gystadleuol oherwydd safon athletwyr gorau Ewrop. Fodd bynnag, mae ein codwyr pwysau elitaidd wedi eu profi eu hunain, ac mae ganddynt gyfle gwych yn Norwy i ennill eu lle yn y Gemau Olympaidd.
"Mae'r tîm cyfan yn parhau i fod yn llawn cymhelliant ac yn canolbwyntio ar wneud i hyn ddigwydd, gan adeiladu ar flwyddyn wych o gystadlu yn 2015 a ddaeth i ben gyda’r perfformiad gorau ers mwy na 10 mlynedd ym Mhencampwriaethau'r Byd, ac rydym yn anelu at efelychu hyn ar y llwyfan Ewropeaidd fis nesaf."
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2016