MSc newydd mewn Astudiaethau Dementia yn tynnu ar arbenigedd academaidd a chlinigol
Mae datblygu MSc newydd mewn Astudiaethau Dementia yn y flwyddyn academaidd hon yn cynnig cyfle cyffrous i staff clinigol sy'n ymwneud â gofal dementia, yn y gymuned ac mewn ysbytai ar draws Gogledd Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Fe'i datblygwyd drwy waith partneriaeth rhwng Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, BCUHB a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'r MSc mewn Astudiaethau Dementia yn dechrau o safbwynt pobl sy'n byw gyda dementia ac yn archwilio meysydd arfer clinigol ac ymchwil o’r safbwynt hwn trwy gydol y cwrs, gan graffu ar faterion pwysig sy'n wynebu pobl sy'n byw gyda dementia a'r dulliau gorau o ddarparu gofal rhagorol.
Mae’r cwrs felly yn cynnig dull arloesol o ddarparu gofal dementia sy'n herio dulliau cyfoes o ddarparu gofal iechyd achymdeithasol i bobl sy'n byw gyda dementia. Mae'n ceisio ysgogi symud tuag at ofal gweithredol i bobl sy'n byw gyda dementia sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a’r teulu trwy raglen ran-amser a llawn-amser hyblyg. Yn ystod y cwrs bydd myfyrwyr yn craffu ar y dulliau gorau o gyfeirio eu hymarfer clinigol o ddydd i ddydd, gan gydnabod yr ystod gymhleth o faterion sy'n wynebu pobl sy'n byw gyda dementia yn y cartref ac yn yr ysbyty, gan gynnwys pwysigrwydd sensitifrwydd i agweddau diwylliannol a dwyieithog ar ofal.
Mae'r cwrs yn cyfuno addysgu ac ymchwil o fewn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd wrth iddi geisio pontio rhwng ymchwil ac ymarfer er mwyn datblygu gwell gofal i bobl sy'n byw gyda dementia, gan gynnwys cyfraniad y Ganolfan Astudiaethau Dementia. Mae hon yn ganolfan ragoriaeth o fewn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd sy’n enwog yn rhyngwladol ym maes ymchwil dementia ac yn cael ei harwain gan yr Athro Bob Woods. Mae pobl sy'n byw gyda dementia yn rhan o'r tîm addysgu yn ogystal ag arbenigwyr ym maes gofal dementia o’r Bwrdd Iechyd a'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, gan gynnwys y .
Datblygwyd yr MSc mewn Astudiaethau Dementia gan Dr Siôn Williams (Uwch Ddarlithydd), Sean Page (Nyrs Ymgynghorol Dementia BCUHB/Uwch Ddarlithydd er Anrhydedd ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É) a Glenys Williams (Darlithydd Coleg Cymraeg Cenedlaethol/ Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É/ BCUHB). Mae'n cynnwys ffocws ar gydnabod profiadau amrywiol pobl â dementia fel bod eu llais yn cael ei glywed yn glir, yn ogystal â datblygu ymwybyddiaeth o agweddau diwylliannol a dwyieithog fel rhan o ofal dementia yng Ngogledd Cymru. Mae Delyth Fôn Thomas, Nyrs Clinigol Arbenigol Dementia Aciwt a Hwylusydd Atal Deliriwm yn Ysbyty Gwynedd, BUCHB wedi chwarae rhan flaenllaw mewn datblygu'r cwrs fel rhan o'r tîm. Pwysleisiodd Sean Page:
Mae yna angen mawr i bobl y mae dementia wedi effeithio arnynt dderbyn gofal iechyd o'r ansawdd y gall pob dinesydd arall yng Nghymru ei ddisgwyl. Mae'r GIG yn diwallu anghenion corfforol yn dda ac yn cynnig sgiliau technegol gwych ond yn rhy aml mae wedi methu â darparu gofal dementia sydd wir yn cwrdd ag anghenion emosiynol a seicolegol y rhai sydd â dementia a'u teuluoedd. Mae'r cwrs MSc yn amlygu cyd-ddibyniaeth agweddau corfforol, emosiynol, seicolegol a diwylliannol gofal. Bydd yn adeiladu sylfaen gwybodaeth staff y bwrdd iechyd fel y gallant fod yn gyfrwng newid ac yn esiamplau cadarnhaol i genedlaethau i ddod o weithwyr gofal iechyd".
Fel rhan o ddatblygu’r cwrs mae Dr Catrin Hedd wedi cael ei phenodi’n Ddarlithydd Astudiaethau Dementia (Cyfrwng Cymraeg) mewn partneriaeth rhwng Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu'r cwrs ymhellach, gan dynnu ynghyd yr elfennau ymchwil, addysgu a dull arloesol o ymdrin â sensitifrwydd diwylliannol ac iaith wrth gefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Awst 2016