Mae'r garfan gyntaf o fyfyrwyr Ffisiotherapi PGDip yn cychwyn ar eu cwrs ym Mangor heddiw
Gyda phrinder ffisiotherapyddion yn aml, mae rheolwyr gwasanaeth ffisiotherapi a darpar fyfyrwyr yng Nghymru wedi croesawu datblygiad llwybr newydd i bobl gymhwyso fel ffisiotherapyddion.
Dechreuodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr ar y cwrs 么l-radd carlam newydd ym Mhrifysgol 亚洲色吧 eu cwrs heddiw. Wedi'i anelu at raddedigion, mae'r cwrs hwn yn darparu dull amgen cyffrous o fynediad i'r proffesiwn o'i gymharu 芒'r dull israddedig sefydledig.
Comisiynwyd y rhaglen gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW). Mae鈥檔 gymar i'r rhaglen israddedig 3 blynedd ym Mhrifysgol Glynd诺r ac yn sicrhau llwybrau ffisiotherapi ar lefelau israddedig ac 么l-raddedig ledled Gogledd Cymru.
Cynlluniwyd y rhaglen fel ffordd effeithlon ac arloesol i ehangu mynediad i'r proffesiwn, gan barhau i ddarparu gweithlu ffisiotherapi o ansawdd uchel i'r Bwrdd Iechyd lleol a thu hwnt.
Meddai Dr Lynne Williams, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Iechyd:
鈥淩oeddwn yn falch iawn o weld ein carfan gyntaf o fyfyrwyr yn cyrraedd heddiw. Mae Prifysgol 亚洲色吧 wedi ymrwymo'n llwyr i gynnig rhaglen ffisiotherapi fel rhan o bortffolio yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ac mae'n croesawu'r datblygiad newydd hwn fel un o'r disgyblaethau allweddol ar gyfer hyrwyddo dysgu rhyngbroffesiynol i fyfyrwyr."
Yn siarad yn fuan wedi iddo gael ei benodi, dywedodd Jonathan Flynn, Arweinydd Cwrs Ffisiotherapi PGDip;
鈥淒wi'n edrych ymlaen at arwain y rhaglen ffisiotherapi, gan weithio mewn partneriaeth agos ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Fy ngobaith yw y bydd y cwrs yn tyfu ac yn dod yn rhan ganolog o'r cynllun strategol ar gyfer iechyd i Gymru gyfan, yn ogystal 芒 darparu sylfaen gref i'w holl ddysgwyr yn y dyfodol fel eu bod nid yn unig yn datblygu i fod yn ffisiotherapyddion y dyfodol, ond yn arweinwyr gofal iechyd y dyfodol."
Croesawodd Nesta McCluskey, Pennaeth Ffisiotherapi (Dwyrain) ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, y myfyrwyr hyn gan ddweud;
鈥淩wy鈥檔 falch iawn bod cwrs Ffisiotherapi newydd yn dechrau yng Ngogledd Cymru. Bydd myfyrwyr yn treulio amser mewn llawer o'r gwahanol safleoedd ysbyty yng Ngogledd Cymru lle byddant yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo mewn gyrfa werth chweil ac amrywiol."
Darganfyddwch fwy am y cwrs yma.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Ionawr 2020