Mae astudiaeth newydd wedi arwain at alw am ailedrych ar astudiaethau blaenorol o wahaniaethau rhwng ymennyddiau pobl ag ASD a'r boblogaeth yn gyffredinol.
Er mwyn deall yn well achosion sylfaenol anhwylderau sbectrwm awtistaidd (ASD), mae seicolegwyr wedi defnyddio dulliau sganio ymennydd i gymharu adeiledd ymenyddiau pobl ag ASD a'r boblogaeth yn gyffredinol. Gan fod yna awydd i ddeall sut y gall gwahaniaethau yn adeiledd yr ymennydd fod yn gysylltiedig 芒 gwahaniaethau mewn gwybyddiaeth a chanfyddiad mewn pobl ag ASD, un trywydd ymchwil yw edrych ar y cysylltedd rhwng gwahanol rannau o'r ymennydd. Un ffordd o fesur y cysylltedd rhwng rhannau o'r ymennydd sy'n bell oddi wrth ei gilydd yw trwy edrych ar adeiledd y feinwe gysylltiol yn yr ymennydd: y llwybrau ffibr "breithell wen", gan ddefnyddio dulliau delweddu cyseinedd magnetig trylediad-pwysol (Diffusion-weighted magnetic resonance imaging (DW-MRI)).
Mae ymchwil flaenorol wedi awgrymu bod y cysylltiadau breithell wen mewn pobl ag ASD yn wahanol. Tybiwyd bod cysylltiadau pellter hir, yn enwedig, yn llai cadarn. Ond mae papur yn y Proceedings of the National Academy of Science (PNAS ar-lein 21.1.14 pnas.org/cgi/doi/10.1073/pnas.1324037111) yn bwrw amheuaeth ar ganlyniadau DWI-MRI presennol mewn pobl ag ASD ac yn awgrymu bod angen adolygu'r casgliadau ymchwil cyfredol a dynnwyd o arbrofion sganio trwy ddelweddu trylediad pwysol.
Roedd y canfyddiadau blaenorol, oedd yn dangos gwahaniaethau yn y llwybrau ffibr breithell wen wedi eu dehongli fel tystiolaeth bod awtistiaeth yn ei hanfod yn syndrom 'datgysylltu' lle mae'r diffygion craidd yn ganlyniad i lai o 'integreiddio' gwybodaeth ar lefel niwral a gwybyddol.
Mae'r ymchwil ddiweddaraf, dan arweiniad Dr Kami Koldewyn, bellach wedi datgelu sut mae symud y pen yn ystod y broses sganio'n gallu effeithio ar y canlyniadau.
Mae Dr Kami Koldewyn o Prifysgol 亚洲色吧 yn egluro:
鈥淢ae symud wrth sganio yn achosi lleihad mewn cyferbyniad yn y rhan sy'n cael ei delweddu - sy'n debyg mewn ffordd i sut mae symud neu ysgwyd camera wrth dynnu llun yn achosi i'r ddelwedd fynd yn aneglur. Oherwydd bod y signal a ddefnyddiwn yn DW-MRI yn gysylltiedig 芒 dwysedd y ddelwedd, mae symud yn achosi newid uniongyrchol yn yr hyn rydym yn ceisio ei fesur. Mae hyd yn oed wahaniaethau cymharol fach rhwng grwpiau o ran faint maent yn symud yn ystod sgan yn gallu achosi gwahaniaethau mawr mewn mesuriadau DW-MRI. Mae'n bosib bod gwahaniaethau yn y mesuriadau rhwng grwpiau wedi eu dehongli'n anghywir fel cysylltiadau llai cadarn mewn llwybrau breithell wen lle mewn gwirionedd roeddent yn adlewyrchu gwahaniaethau yn symudiadau'r pen yn ystod y broses sganio.
Yn yr ymchwil ddiweddaraf, cynhwyswyd carfan fawr o blant yn yr astudiaeth, a dil毛wyd o'r set ddata yr holl sganiau ag unrhyw dystiolaeth weledol o symud yn y delweddau. Pan ddiystyrwyd effaith y symudiadau pen, roedd yna wahaniaethau eglur rhwng grwpiau mewn nifer o'r llwybrau breithell wen. Mewn gwirionedd, dangosodd y dadansoddiadau bod yr hyn y gellid bod wedi ei ddadansoddi fel gwahaniaethau yn y freithell wen pellter hir rhwng dwy set o sganiau o'r un gr诺p o blant wedi ei achosi gan symud. Ond pan barwyd grwpiau'n ofalus nid yn unig yn 么l IQ, oed a rhyw, ond hefyd yn 么l faint roeddent wedi symud yn ystod y sgan, ni chafwyd unrhyw wahaniaeth rhwng y grwpiau - ac eithrio mewn un rhan benodol o'r ymennydd: y fascicwlws hydredol isaf de. Mae'r llwybr breithell wen hwn yn cysylltu rhannau gweledol cynnar gyda rhannau gweledol lefel uwch o'r ymennydd sy'n bwysig ar gyfer adnabod wynebau a gwrthrychau. Roedd yr ymchwilwyr wedi rhagweld y canlyniad hwn - mae'r llwybr hwn yn wahanol mewn pobl 芒 namau cynhenid o ran adnabod wynebau ac mae pobl ag ASD yn aml yn cael trafferth adnabod wynebau.
Meddai Dr Koldewyn: "Fel cymuned academyddion sy'n gwneud ymchwil i ASD, mae angen i ni gydnabod a mynd i'r afael 芒 phroblemau ansawdd data sydd yn creu trafferthion i bob un ohonom. Er mwyn sicrhau'r canlyniadau o ansawdd uchel sydd eu hangen i ddeall anhwylder cymhleth fel ASD, rhaid i ni feddwl yn ofalus ynghylch sut i wella technegau sganio a chytuno pa ddulliau dadansoddi sydd yn ddigon cadarn."
"Yn sicr mae gen i ddiddordeb mewn parhau'r trywydd ymchwil hwn yma ym Mhrifysgol 亚洲色吧," ychwanegodd.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Ionawr 2014