Llysgennad Chwaraeon Ifanc yn Graddio
Bu i Jamie Turley, a gludodd y dorch Olympaidd a baton Gemau'r Gymanwlad, raddio o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yr wythnos hon.
Cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Prestatyn yw Jamie, sy'n 22 oed, ac yn dod o Ffynnongroyw. Graddiodd gyda gradd BSc Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol.
Yn hynod hapus gyda'i lwyddiant, meddai Jamie: “Mae'n wych fy mod i wedi cyflawni'r hyn yr oeddwn wedi gobeithio'i wneud, ac rydw i'n falch iawn gyda chanlyniad fy holl waith caled.
"Mi ddewisais i astudio yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É am ei henw da rhyngwladol. Roedd y cwrs hwn yn cynnig addysgu gyda phwyslais ar ymchwil, a hynny mewn lleoliad gwych ar gyrion Eryri ac Afon Menai.
"Dwi'n frwd iawn dros chwaraeon ac addysgu, ac rydw i wedi bod yn ymwneud â'r ddau ers blynyddoedd lawer. Yn 22 oed, rydw i wedi cyflawni gymaint yn barod, ac mae gen i uchelgais i barhau fy nhaith i gyrraedd fy lefel bersonol orau. Yn 2012 cefais yr anrhydedd i gludo'r dorch Olympaidd, ac eleni mi wnes i gludo baton Gemau'r Gymanwlad drwy'r Rhyl. Yn 2011, roeddwn yn un o'r rhai aeth drwodd i rownd derfynol 'Hyfforddwr Ifanc y Flwyddyn', a chefais fy enwebu'n Myfyriwr Chwaraeon y Flwyddyn Sky.
“Ar ddechrau fy ail flwyddyn, cymerais amser allan i wneud lleoliad profiad gwaith gyda chlwb pêl-droed proffesiynol yr Eidal, Torino FC, yn Serie A. Ro'n i'n meddwl y byddai'r aberth yn werth yr un cyfle mewn oes a oedd ar gael i mi, drwy wneud cysylltiadau allanol drwy waith caled.
“Fel y rhan fwyaf o fyfyrwyr, mi ges i waith rhan-amser yma ac acw, ac ymgymryd â chymaint o waith perthnasol ag oedd yn bosib i mi i gynyddu fy mhrofiad drwy gydol fy amser yn y Brifysgol. Roedd gwneud yn siŵr bod gen i'r cydbwysedd cywir o waith cyflogedig, gwaith academaidd ac amser rhydd yn hanfodol; roedd gwaith academaidd bob amser yn flaenoriaeth yn ystod y cyfnodau hyn.
“Ar ryw bwynt dwi'n siŵr bod pawb yn mynd drwy ryw gyfnod lle maen nhw'n amau y gallen nhw gwblhau'r hyn sy'n ofynnol, bob tro ro'n i'n dod at y wal yma, ro'n i'n dweud wrth fy hun ‘jesd gwna'r gorau gelli di’ ac mi wnaeth pethau weithio allan yn dda i mi.
“Gyda chymaint o atgofion hyfryd, mi fyddwn i'n dweud mai'r uchafbwynt oedd gwneud cymaint o ffrindiau agos o bob rhan o'r wlad a thu hwnt… nhw ydi'r bobl wnaeth fy amser yn y Brifysgol yr hyn oedd o.
“Rydw i'n aelod o fwrdd ymgynghorol Chwaraeon Cymru ar hyn o bryd, sydd wedi rhoi cyfleoedd unigryw i mi, yn cynnwys hyfforddi sesiynau 5x60 cynradd ac uwchradd.
"Yn y dyfodol, rydw i'n gobeithio bod yn athro ysgol addysg gorfforol mewn uwchradd, ochr yn ochr â hyfforddi i'r lefel uchaf posib. Ar hyn o bryd, mae'r posibiliadau yn ddiddiwedd, ac rydw i'n teimlo y byddaf i un diwrnod yn dychwelyd i'r byd academaidd i ddilyn cwrs PhD."
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014