Llwyddiant yn Noson Wobrwyo MediWales am ail flwyddyn yn olynol
Mae tîm a arweiniwyd gan Dr Chris Subbe, Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, sydd hefyd yn ymarferwr clinigol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi ennill Gwobr MediWales am "Partneriaeth GIG gyda Diwydiant yn y DU ac yn rhyngwladol". Noddwyd y wobr gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Roche.
Dyfarnwyd y wobr am waith ar y cyd gyda Philips Healthcare. Daeth Philips, sy’n arwain y farchnad mewn monitro gofal dwys, i ogledd Cymru i brofi eu system fonitro fwyaf blaengar ar gyfer wardiau cyffredinol, fel rhan o astudiaeth VITAL II. Mae gogledd Cymru yn un o’r canolfannau sy’n arwain ar ddiogelwch ysbytai yn y 15 mlynedd diwethaf, gyda gwaith ar Systemau Ymateb Brys. Mae Systemau Ymateb Brys yn defnyddio arfarniad systematig o arwyddion bywyd y claf, gan gynnwys graddfa anadlu, pwysedd gwaed, a chyfradd curiad y galon. Os yw’r arwyddion bywyd yn dangos patrwm sy’n nodi gwaeledd, mae Tîm Ymateb Brys yn cael eu galw, dros y ffôn fel rheol, i erchwyn y gwely i gefnogi’r claf sydd mewn perygl.
Meddai Dr Subbe:
"Mae’r 'Ymateb Gwarchodwr' yn ymestyn diogelwch y claf drwy gyflwyno dwy elfen newydd: defnydd o iconau clir sy’n cael eu harddangos ar yr orsaf nyrsio ganolog, gan ei wneud yn glir i bob aelod o’r Tîm fod y claf yn sâl, nid yn unig i’r aelod sy’n gofalu am y claf. Mae’r ‘Gwarchodwr’ hefyd yn rhoi gwybod yn awtomatig am arwyddion bywyd anarferol i’r Tîm Ymateb Brys."
Mae canlyniadau cynnar yn awgrymu gostyngiad mewn trawiadau ar y galon, a bod cleifion sydd ag afiechyd critigol yn cael eu trosglwyddo i’r Uned Gofal Dwys yn gynt.
Mae’r system yn cyflwyno newid sylweddol i ddiogelwch y claf gan ddefnyddio egwyddorion sydd wedi bod yn gyffredin mewn diogelwch awyrennau. Mae hyn yn symleiddio cyfundrefnau i nyrsys a doctoriaid, ac yn creu amser i wella triniaeth i gleifion. Yn ogystal, mae’r system electronig yn gweithredu fel rhwyd diogelwch ychwanegol.
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i Dr Subbe fod yn rhan o dîm i ennill gwobr yn nigwyddiad MediWales. Fe enillodd y Wobr Arloesedd yn y GIG y llynedd am ei waith efo Andy Goodman o Arloesi Pontio ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É am lunio record feddygol peilot y gall y claf greu drostynt eu hunain.
Meddai’r Athro Dean Williams, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Meddygol y Brifysgol:
"Mae’r ymchwil hon yn nodweddiadol o’r ansawdd uchel a’r effaith byd real y mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ymgymryd â hwy mewn partneriaeth â rhai o chwaraewyr masnachol mwyaf y byd ym maes iechyd a meddygaeth."
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2015