Lansio Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol 亚洲色吧
Ddydd Iau, 25 Chwefror 2016, mae Prifysgol 亚洲色吧 yn lansio'r newydd.
Gan adeiladu ar sylfaen gadarn o ragoriaeth ymchwil bydd Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol 亚洲色吧 (BIHMR) yn hwyluso ymchwil fwy rhyngddisgyblaethol sy'n pontio darganfyddiadau yn y labordy ymlaen i ymchwil sy'n datrys problemau iechyd cymhleth yn y byd go iawn. Yn y ffordd hon bydd BIMHR yn cyfrannu at welliannau mewn iechyd a gofal iechyd lleol yn ogystal a chael effaith ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig, ac yn rhyngwladol.
Agorir yr achlysur gan Is-ganghellor y Brifysgol, yr Athro John Hughes. Yn ymuno ag ef bydd nifer o bobl amlwg, yn cynnwys Prif Gynghorwr Gwyddonol Llywodraeth Cymru, Yr Athro Julie Williams, CBE a'r Prif Swyddog Meddygol, Dr Ruth Hussey, OBE. Bydd yr Athro Williams yn amlinellu cyflwr presennol ymchwil ym maes iechyd yng Nghymru tra bydd Dr Hussey'n amlinellu'r sialensiau iechyd y mae Cymru'n eu hwynebu at y dyfodol. Bydd yr Athro Jo Rycroft Malone, Cadeirydd y Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Iechyd, a Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil yn y Brifysgol, yn trafod llwyddiant y Brifysgol mewn ymchwil iechyd a meddygol a gydnabuwyd yn y gwerthusiad olaf o ymchwil ar draws prifysgolion y Deyrnas Unedig. Bydd yr Athro Malone yn tynnu sylw at y ffyrdd y bydd BIHMR yn cyfrannu at agenda iechyd y genedl.
Meddai'r Athro Clare Wilkinson, arweinydd BIHMR:
"Mae hwn yn amser cyffrous iawn i gymryd rhan mewn ymchwil iechyd a meddygol. Bydd BIHMR yn dod 芒 grwpiau rhagorol sy'n bodoli eisoes at ei gilydd, a hefyd sefydlu trefn i ddenu cyllid ymchwil ychwanegol yn y dyfodol. Ond, i mi, rhan bwysicaf y cynllun hwn ydi'r effaith y bydd yn eich chael ar fywydau cleifion ar draws Prydain a thu hwnt. Mae gennym eisoes enghreifftiau niferus o ymchwil o Fangor yn newid dulliau gweithredu mewn amrywiaeth eang o leoliadau iechyd; bydd hyn yn ein galluogi i gyrraedd ymhellach ac yn ehangach nag erioed o'r blaen."
Er mwyn cynnal a meithrin rhagoriaeth mewn ymchwil iechyd a meddygol, bydd BIHMR yn ganolbwynt lle gall academyddion o wahanol ddisgyblaethau gwyddonol a phroffesiynol ddod at ei gilydd i ffurfio cynlluniau cydweithredol newydd. Bydd yn rhoi mwy o gyfleoedd ar gyfer gweithio rhyngddisgyblaethol mewn ymchwil glinigol a chymhwysol, a rhoi proffil uwch i Fangor a Chymru yn y maes pwysig hwn. Gan weithio'n agos 芒 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bydd BIHMR yn cyfrannu at ymchwil gadarn yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng ngogledd Cymru, gan ganolbwyntio'n neilltuol ar feysydd rhagoriaeth; er enghraifft, dementia, canser ac adferiad, a meysydd lle mae timau o Fangor wedi datblygu dulliau newydd i wneud ymchwil o'r ansawdd uchaf.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Chwefror 2016