Jessica yn trosi ei hangerdd dros chwaraeon yn ymchwil rygbi
Mae myfyrwraig a ymgeisiodd i astudio ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É drwy wasanaeth UCAS Extra, a hynny ar ôl newid ei dewis faes astudio, yn graddio heddiw gydag anrhydedd Dosbarth Cyntaf.
Yn hytrach na dilyn gyrfa fel Ffisiotherapydd, sylweddolodd Jessica Lee Hughes, 21, o Bwllheli, y gallai ei magwraeth yn aelod o deulu sy’n mwynhau y campau ei harwain tuag at yrfa ym maes Gwyddor Chwaraeon ac yn ystod y broses hon o ‘ad-drefnu’ ei hopsiynau y lluniodd Jessica gais i Fangor. Ar ôl cael ei denu i'r brifysgol gan y cydbwysedd o weithgareddau addysgu ac ymchwil, dechreuodd ar gwrs Baglor mewn Gwyddoniaeth 3-blynedd yn astudio Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer y brifysgol.
Roedd Jessica yn benderfynol o wneud y gorau o'i hamser ym Mangor ac yn ogystal â bod yn arweinydd cyfoed arobryn ac yn llysgennad ysgol ar Ddyddiau Agored, treuliodd 3 mis yn gweithio mewn gwersyll haf yn nhalaith Efrog Newydd a rhoddodd ei harbenigedd ar waith ar gyfres Y Siambr ar S4C, a ffilmiwyd yn y chwarel lechi danddearol ym Mlaenau Ffestiniog.
Gan glodfori’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer am ei phwyslais ar gyflogadwyedd, yn ystod ei chwrs 3 blynedd, enillodd Jessica gymhwyster hyfforddi rygbi Lefel 1 a chyflwynodd sesiynau i ysgolion cynradd ac uwchradd yn y rhanbarth. Arweiniodd hyn yn ei dro at weithio gydag Undeb Rygbi Cymru yn eu gwersylloedd rygbi yn ystod gwyliau hanner tymor a chael ei phenodi yn hyfforddwr Cryfder a Chyflyru gyda charfannau Dan-16 a Dan-18 y tîm rhanbarthol, Rygbi Gogledd Cymru (RGC).
Gan edrych yn ôl ar ei 3 blynedd fel myfyrwraig israddedig yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, roedd Jessica yn awyddus i ganmol darpariaeth cyfrwng Cymraeg yr Ysgol, gan gydnabod ei bod wedi chwarae rhan allweddol yn ei llwyddiant academaidd:
‘Cael tiwtor personol y gallwn drafod prosiectau ymchwil ac unrhyw broblemau â nhw yn y Gymraeg, ynghyd â sesiynau labordy, taflenni a seminarau a gynhaliwyd drwy gyfrwng y Gymraeg, oedd y gefnogaeth yr oeddwn ei hangen yn fy ngradd. Nid yn unig y bu’n gymorth i mi wrth ennill gradd Dosbarth Cyntaf, mae hefyd wedi gwella fy nghyflogadwyedd ar gyfer y dyfodol.’
Bydd Jessica yn aros ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É am flwyddyn arall, wrth iddi ddechrau ar radd Meistr ym maes ymchwil rygbi ochr yn ochr â'i rôl fel rhan o'r tîm Cryfder a Chyflyru RGC.
Straeon Perthnasol:
Dwy fyfyrwraig leol yn cipio Gwobrau Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol
Dyddiad cyhoeddi: 17 Gorffennaf 2019