Inequality: The Enemy Between Us
Wythnos diwethaf, ymwelodd yr Athro Kate Pickett o Brifysgol Efrog 芒 亚洲色吧 i draddodi Darlith Goffa Anne Marie Jones, dan arweiniad a'r Ganolfan Ymyriad Cynnar ar Sail Tystiolaeth yn yr Ysgol Seicoleg.
Mae Kate Pickett yn gydawdur 鈥The Spirit Level鈥 cyfrol ddylanwadol a ddyfarnwyd yn Gyhoeddiad y Flwyddyn 2012 gan y Political Studies Association ac a gyfieithwyd i 23 o ieithoedd.
Dan y teitl "Inequality: The Enemy Between Us鈥 roedd ei darlith yn archwilio effaith anghydraddoldeb incwm ar draws y byd, gyda phwyslais arbennig ar effaith anghydraddoldeb ar blant. Daeth cynulleidfa fawr o fyfyrwyr a staff y brifysgol, ac aelodau o'r gymuned ehangach i'w gweld.
"Mae yna fytholeg yn y DU i'r perwyl os byddwch yn gweithio'n galed a bod gennych ddigon o uchelgais y byddwch yn llwyddo mewn cymdeithas. Ni all hynny fod yn wir tra bod cydraddoldeb isel o ran cyfle a symudedd cymdeithasol", dywedodd yr Athro Pickett.
Aeth ymlaen i esbonio'r cysylltiadau rhwng anghydraddoldeb a lles plant, gan ddangos bod lles plant yn is na'r cyfartaledd mewn gwledydd lle mae anghydraddoldeb incwm yn uwch.
"Wnewch chi ddim dod ar draws unrhyw un, ar draws y sbectrwm gwleidyddol, nad yw'n credu bod symudedd cymdeithasol yn beth da. Rydym i gyd eisiau i'n plant wneud yn dda, ond mae symudedd cymdeithasol lawer yn is mewn gwledydd mwy anghyfartal.
Os ydych chi wir eisiau byw'r Freuddwyd Americanaidd, byddai gennych well cyfle o wneud hynny yn Nenmarc" meddai.
Cadeiriwyd y ddarlith gan Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro John Hughes, a ddywedodd: "Mae鈥檔 bleser mawr cael cwmni yr Athro Kate Pickett heno... Mae 'The Spirit Level鈥 yn cynnwys gwersi pwysig iawn yngl欧n 芒 pham y dylem ymgyrchu dros gydraddoldeb."
Mae'r Athro Pickett yn gyd-sylfaenydd , mudiad sy'n gweithio i leihau anghydraddoldeb incwm er mwyn gwella ansawdd byw yn y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2014