Gwobrwyo cyfraniad at wyddorau chwaraeon ac ymarfer
Mae Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prydain (British Association of Sport and Exercise Sciences, neu ) yn falch o gael anrhydeddu Stuart Beattie, Darlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol 亚洲色吧 ac aelod o鈥檙 Sefydliad Ymarfer El卯t, gyda Chymrodoriaeth BASES i gydnabod ei gyraeddiadau proffesiynol gwerthfawr, ei sgiliau, ei wybodaeth a鈥檌 wasanaeth i BASES a鈥檙 gymuned gwyddorau chwaraeon ac ymarfer.
BASES yw鈥檙 prif gorff proffesiynol dros wyddorau chwaraeon ac ymarfer yn y DU.
Dim ond criw dethol o wyddonwyr chwaraeon ac ymarfer sydd wedi derbyn Cymrodoriaeth BASES ers sefydlu鈥檙 corff yn 1984. Dyfernir Cymrodoriaethau i鈥檙 aelodau hynny sydd wedi dangos angerdd ac ymrwymiad i BASES a gwyddorau chwaraeon ac ymarfer. Gall y rhai sy鈥檔 derbyn Cymrodoriaeth ddefnyddio FBASES ar 么l eu henwau a bod yn arweinwyr a llysgenhadon dros y Gymdeithas.
Bydd y cyrhaeddiad yn cael ei nodi yn ystod Cinio Cynhadledd 2016 ar nos Fawrth 29 Tachwedd yn yr East Midlands Conference Centre.
Meddai鈥檙 Athro Nicky Callow, Deon y Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad: 鈥淢ae Stuart yn llwyr haeddu鈥檙 Gymrodoriaeth hon. Mae wedi gwneud cyfraniad gwych i wyddorau chwaraeon ac ymarfer drwy ei waith ymchwil ei hun a thrwy ei gefnogaeth ac anogaeth i fyfyrwyr dros y blynyddoedd.鈥
Meddai Dr Keith Tolfrey, Cadeirydd BASES: 鈥淩wyf yn falch o weld cymaint o wyddonwyr chwaraeon ac ymarfer yn derbyn cydnabyddiaeth am eu cyfraniadau neilltuol i BASES a鈥檙 gymuned gwyddorau chwaraeon ac ymarfer. Mae鈥檙 gwobrau wedi eu hennill drwy waith caled ac mae pob un yn eu haeddu yn llwyr.鈥
Yn gynharach eleni, trefnodd Dr Beattie Gynhadledd Flynyddol Myfyrwyr BASES. Gweler (dolen i鈥檙 stori). Mae鈥檔 ymuno 芒鈥檙 Athro Lew Hardy o鈥檙 Ysgol a sawl cyn-aelod o staff yr Ysgol sydd hefyd yn Gymrodorion BASES. Mae rhestr lawn ar gael yma: www.bases.org.uk/Fellowships
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2016