Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2018
Cynhaliwyd y seithfed seremoni Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr blynyddol yn ddiweddar. Roedd y noson i ddathlu鈥檙 safon uchel o addysgu a chymorth a geir ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Mae enwebiadau wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, sy'n dangos bod mwy a mwy o fyfyrwyr yn cydnabod pwysigrwydd ansawdd dysgu yn eu haddysg.
O鈥檙 600 enwebiad, enwebwyd pob math o staff am eu gwaith caled yn y Brifysgol dros 12 categori gwahanol. Ymysg y gwobrau, dyfarnwyd Athro y Flwyddyn i Dylan Wyn Jones, Ysgol Gwyddorau Meddygol ac aeth gwobr Ysgol y Flwyddyn i Ysgol y Gymraeg.
Meddai鈥檙 Athro Gerwyn Wiliams, Pennaeth Ysgol y Gymraeg:
鈥淢ae鈥檙 ysgol yn ymfalch茂o yn fawr iawn yn y wobr hon sy鈥檔 arwydd clir o werth a phwysigrwydd adrannau academaidd bach.鈥
Dywedodd Dylan Wyn Jones, Athro y Flwyddyn: "Mae鈥檔 anrhydedd mawr i gael fy enwebu ar gyfer y wobr yma gan y myfyrwyr ac un hyd yn oed yn fwy i鈥檞 ennill. Hoffwn ddiolch i'r myfyrwyr ar gyfer yr enwebiad a hefyd am eu hanogaeth ac adborth sydd wedi fy ngalluogi i ddatblygu fel darlithydd. Hoffwn hefyd ddiolch i'm cyd-weithwyr yn yr Ysgol ar gyfer y cyfleoedd a roddir a鈥檜 cefnogaeth ardderchog."
Dywedodd yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor (Profiad Myfyrwyr): "Dyma'r dathliad arall o holl waith gwych a wnaed gan staff ar draws y Brifysgol. Mae'n galonogol i weld bod y gwaith yn cael cydnabyddiaeth mor frwdfrydig gan y myfyrwyr. Llongyfarchiadau mawr i鈥檙 holl enwebeion a'r enillwyr."
Dywedodd Helen Marchant, Is-lywydd Addysg a Lles yr Undeb ac un o drefnwyr y noson: 鈥淢ae bod yn rhan o鈥檙 Gwobrau yma yn brofiad gwych. Mae'r Gwobrau yn dathlu'r bartneriaeth rhwng staff a myfyrwyr, dylai fod yn rhywbeth y dylai pob prifysgol ymdrechu i greu.鈥
Llongyfarchiadau i enillwyr 2018:
Gwobr Addysg Cyfrwng Cymraeg | Awel Vaughan-Evans | Ysgol Seicoleg |
Gwobr Cefnogaeth Fugeilio Eithriadol | Caroline Bowman | Ysgol Seicoleg |
Goruchwylydd Traethawd Hir/Thesis y Flwyddyn | Lucy Huskinson | Ysgol Athroniaeth a Chrefydd |
Gwobr Cydnabyddiaeth Arbenning | Karen Pollock | Ysgol Gwyddorau Meddygol |
Gwobr Ennyn Diddordeb Myfyrwyr | Mandy Angharad | Ar Y Cyd |
Gwobr Ryngwladol | Alan Edwards | Canolfan Addysg Ryngwladol |
Athrowes Newydd y Flwyddyn | Alyson Moyes | Ysgol Gwyddorau Meddygol |
Athrowes 脭l-radd y Flwyddyn | Rebecca Jones | Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth |
Gwobr Arwr heb ei gydnabod | Rebecca Jones | Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth |
Athro'r Flwyddyn | Dylan Wyn Jones | Ysgol Gwyddorau Meddygol |
Aelod o Staff Cefnogi鈥檙 Flwyddyn | Gwenda Blackmore | Uned Cymorth Ariannol |
Ysgol y Flwyddyn | Ysgol y Gymraeg |
Bydd lluniau ar yn fuan.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Ebrill 2018