Gwobr Nyrs y Frenhines i Ddalithydd o Fangor
Mae darlithydd o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi ennill gwobr glodfawr am ei chyfraniad i nyrsio yn y gymuned.
Roedd Angela Williams, Darlithydd mewn Nyrsio a Bydwreigiaeth ar gampws ÑÇÖÞÉ«°É yn Wrecsam, yn un o 126 o nyrsys ar draws y wlad i ennill Teitl Nyrs y Frenhines fel rhan o seremoni Gwobrau'r Gwanwyn gan Sefydliad Nyrsio'r Frenhines (QNI) yn Llundain y mis diwethaf.
Mae'r wobr, a gyflwynwyd gan Jane Cummings, Prif Swyddog Nyrsio Lloegr, yn cydnabod yr effaith sydd gan nyrsys ar ddysgu, arwain a datblygu gwasanaethau mewn cymunedau ledled y wlad.
Er mwyn mynd yn Nyrs y Frenhines, mae'n rhaid bod gan unigolion ymrwymiad i safonau uchel o ofal yn eu cymuned, yn ogystal â gweithredu fel arweinwyr a phatrwm ymddygiad i'w cydweithwyr.
Croesawyd enillwyr y gwobrau hefyd gan Dr Crystal Oldman, Prif Weithredwr y Sefydliad, a Kate Billingham CBE, Cadeirydd Cyngor y QNI.
Mae Angela wedi bod yn ddarlithydd yn y brifysgol ers Mawrth 2014, a chyn hynny roedd yn ymwelydd iechyd yn ardal Wrecsam, ac mae hi wrth ei bodd yn cael ei phenodi yn Nyrs y Frenhines, a hi yw'r unig aelod o staff academaidd ÑÇÖÞÉ«°É i gael y wobr eleni.Dywedodd: ‘’Roeddwn yn falch iawn o gael y teitl Nyrs y Frenhines. Rydw i wedi treulio llawer o fy mlynyddoedd gwaith fel nyrs wedi cymhwyso yn gweithio yn y gymuned. Mae gweithio yn y gymuned wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd, ac mae cael fy nghydnabod fel hyn yn wobr werth ei chael. Credaf yn y gwerthoedd sydd gan Sefydliad Nyrsio'r Frenhines, sy'n canolbwyntio ar ddatblygu nyrsio cymunedol a chadw'r claf wrth galon y gofal. Roeddwn i'n falch o fod yn y seremoni wobrwyo yn cynrychioli gogledd Cymru.’’
Mae'r wobr yn dystiolaeth bellach o ansawdd uchel yr Addysg Nyrsio sydd gan Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar y ddau gampws ym Mangor a Wrecsam, ac mae hyn yn adeiladu ar lwyddiannau diweddar ar dablau cynghrair a welodd ÑÇÖÞÉ«°É yn cael ei gosod yn 3ydd yn y DU yn y Complete University Guide. Oherwydd cynnydd diweddar mewn cyllido gan gorff ariannu Llywodraeth Cymru y mae lleoedd nyrsio yn dal ar gael ar gyfer Medi 20916 a Mawrth 2017.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2016