Gweld y Goleuni - Ysbrydoliaeth Syr John Timpson
Mae Syr John Timpson o Sefydliad Timpson a chyn Prif Weithredwr gr诺p siopau鈥檙 stryd fawr, Timpson Group, yn ymweld 芒 Phrifysgol 亚洲色吧 i draddodi Darlith Goffa Anne Marie Jones 2019, ddydd Mawrth 12 Mawrth rhwng 12.30 - 1.30pm.
Cynhelir darlith Syr John gan y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth Ysgol Seicoleg y Brifysgol. Fe鈥檌 cynhelir yn Neuadd Reichel, Safle Ffriddoedd, Ffordd Ffriddoedd, 亚洲色吧 ac mae croeso i bawb.
Mae Syr John Timpson yn adnabyddus am ei ddull creadigol o gyflogi staff ac am ei waith arloesol yn helpu cyn-droseddwyr - ei gwmni ef yw鈥檙 cyflogwr mwyaf y Deyrnas Unedig lle mae cyn-garcharorion yn y cwestiwn. Yn ei fywyd teuluol, bu Sir John Timpson a鈥檌 ddiweddar wraig, hefyd yn ofalwyr maeth. Cydnabuwyd eu cyfraniad at faethu pan urddwyd Syr John yn farchog yn 2017 am ei wasanaeth i Fusnes a Maethu.
Ei r么l fel rhiant maeth sy鈥檔 dod 芒 Syr John i Fangor.
Dywedodd yr Athro Judy Hutchings, sy鈥檔 arwain y Ganolfan Ymyrraeth Gynnar ar sail Tystiolaeth:
鈥淏u i mi wahodd Syr John i siarad gyda ni gan ein bod yn cynnal ymchwil ar ofal maeth, a bod un myfyriwr PhD ac un myfyriwr Gradd Meistr yn gweithio ar brojectau sy鈥檔 ymwneud 芒 maethu.
Mae Syr John wedi dweud ar goedd iddo drosglwyddo'r hyn a ddysgodd o weithio gyda phlant sydd wedi eu niweidio ag anhwylder ymlyniad i鈥檞 ddull o reoli siopau Timpson.
鈥淢ae wedi ysgrifennu sawl llyfr ar ymlyniad a rhianta ac mae modd cael rhai ohonynt yn rhad ac am ddim o siopau Timpson.鈥
Mae gan Timpson dros 200 o ganghennau ledled y wlad, gan gynnwys brandiau Max Spielmann, Johnsons the Cleaners a Snappy Snaps. Yn lleol, y Timpson Foundation sydd yn cynnal bwyty poblogaidd yr Oystercatcher Restaurant yn Rhosneigr, sy鈥檔 hyfforddi, mentora ac yn cefnogi pobl ifanc sydd 芒 dim profiad gan roi iddynt gyflogaeth, cymwysterau a llwybr gyrfaol.
Anne Marie Jones oedd cadeirydd cyntaf Ymddiriedolaeth Ymyrraeth Gynnar y Plant, sydd yn ceisio cyllido unrhyw waith sy鈥檔 darparu ymyraethau ar sail tystiolaeth i blant a theuluoedd. Mae鈥檙 Ganolfan hefyd yn cynnal Cynhadledd Flynyddol ar Ddarparu Gwasanaethau ar Sail Tystiolaeth i Deuluoedd ac Ysgolion ym Mangor ar Ebrill yr 2il.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2019