Gwaith ymchwil ar fagu plant yn ennill ‘Papur Gorau’ gan yr Association for Child and Adolescent Mental Health
Mae papur ar fagu plant ar gyfer iechyd hirdymor plant ifanc gyfrannodd yr Athro Judy Hutchings, Athro Seicoleg yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, ato wedi cael ei wobrwyo’n ‘Bapur Gorau’ yr Association for Child and Adolescent Mental Health yn ystod eu seremoni gwobrwyo 2021.
Cafodd y canlyniadau o’r treial cyntaf, gafodd eu wneud yn Ne Affrica, eu cyflwyno yn 2020 a cafodd y papur Parenting for Lifelong Health for young children: a randomized controlled trial of a parenting program in South Africa to prevent harsh parenting and child conduct problems ei gyhoeddi .
Llun: o’r chwith Yr Athro Judy Hutchings, Dr Jamie Lachman a’r Athro Frances Gardner o Brifysgol Rhydychen a’r grwp gwreiddiol o arweinwyr gafodd eu hyfforddi yn Cape Town.
Wedi ei selio ar flynyddoedd o ymchwil am fagu plant, gweithiodd Yr Athro Judy Hutchings gyda chydweithwyr ym Mhrifysgolion Oxford a Capetown i ddatblygu rhaglen magu plant cost isel fyddai ar gael ac yn fforddiadwy ar gyfer gwledydd incwm isel a chanolig, ble mae trais yn erbyn plant yn digwydd ar gyfraddau uchel.
Cafodd y cynllun ei brofi yn y maes yn wreiddiol yn Ne Affrica, lle bu Judy’n hyfforddi’r grŵp cyntaf o arweinwyr ac yn rhan o’r gorchwylio yn ystod y treial. Roedd Dr Margiad Williams - darlithydd mewn Addysg ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, hefyd yn rhan trwy ei gwaith yn hyfforddi ymchwilwyr mewn dulliau arsylwi.
Meddai’r Athro Hutchings, “Yn dilyn canlyniadau cadarnhaol, cafodd ein rhaglen ei fabwysiadu gan y World Health Organisation fel rhan o gyfres o raglenni Magu Plant ar gyfer Iechyd Gydol Oes. Mae gan y rhaglen drwydded greadigol cyffredinol, sy’n golygu na allai gael ei ddefnyddio er elw, oedd yn bwysig i ni.
“Ers hynny, mae’r rhaglen Magu Plant ar gyfer Iechyd Gydol Oes wedi cael ei redeg mewn sawl gwlad yn Affrica, ac wedi ei dreialu’n llwyddiannus yn y Philippines a Gwlad Thai. Mae Margiad a finnau hefyd yn cydweithio ar hyn o bryd ar dreial o’r rhaglen mewn tair gwlad mewn gwledydd yn Nwyrain Ewrop: Gogledd Macedonia, Moldova a Romania trwy Horizon 2020, cynllun ymchwil ac arloesi’r Undeb Ewropeaidd, felly mae’r gwaith yn parhau.”
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2021