Gwaith ar broteinau newydd a allai rwystro tiwmorau canseraidd rhag ffurfio
Mae Dr Chris Staples, o Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ym Mangor wedi cyhoeddi erthygl yn 鈥淐ell Reports鈥, cyfnodolyn gwyddonol blaenllaw, ar 么l darganfod ataliwr newydd a allai rwystro tiwmorau. Mae Chris yn gweithio ar nifer o broteinau newydd, sy'n rhwystro difrod i'r DNA rhag cronni mewn celloedd dynol. Gallai hyn o bosib atal tiwmorau rhag ffurfio ac mae gan hyn oblygiadau cyffrous o ran datblygu triniaethau newydd ac effeithiol.
Mae Chris hefyd yn ymchwilio i ddulliau o sensiteiddio celloedd canser i gemotherapi trwy ddatblygu cyfansoddion newydd i rwystro'r DNA rhag atgyweirio ei hun, ac mae'n astudio'r rhyngwyneb rhwng mecanweithiau atgyweirio DNA a swyddogaethau cellog pwysig eraill. Yn ddiweddar, cafodd Chris gyllid gan Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin a Rhwydwaith Gwyddorau Bywyd Cymru, gwerth cyfanswm o 拢376,000. Defnyddir yr arian i gyllido myfyriwr doethuriaeth a dau wyddonydd 么l-ddoethuriaeth i hybu ei waith yn y meysydd hyn.
Meddai Chris "Rwy'n teimlo'n gyffrous iawn am y projectau sydd ar y gweill yn fy labordy - mae gwybod sut mae celloedd yn atgyweirio DNA yn hanfodol i'n dealltwriaeth o fioleg tiwmorau, a gallai'r strategaeth o dargedu atgyweirio DNA gynnig gobaith i lawer o gleifion canser yn y pen draw. Rwy'n falch iawn fy mod wedi sefydlu fy labordy yma ym Mangor - mae'r amgylchedd gwaith yn rhagorol, ac mae fy nheulu wedi syrthio mewn cariad 芒 gogledd Cymru! 鈥
Cefnogir swydd Dr Staples ym Mhrifysgol 亚洲色吧 trwy gyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, fel rhan o Ganolfan Ymchwil Canser Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2016