Gall y celfyddydau wella'r berthynas rhwng staff gofal dementia a phreswylwyr cartrefi gofal
Dangoswyd bod y celfyddydau yn cadarnhau sgiliau a hyder staff gofal dementia, gan alluogi cyfnewid ystyrlon gyda phreswylwyr a all fod yn greadigol, 'yn y foment', yn ddigymell ac yn fyrfyfyr.
Arweiniodd partneriaeth rhwng Prifysgol 亚洲色吧 (y gr诺p ymchwil o yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd), , a at sefydlu project ymchwil 18 mis a ddatblygodd a rhoi prawf ar Sgyrsiau Creadigol, rhaglen datblygu staff wedi'i seilio ar y celfyddydau ar gyfer gweithlu gofal dementia.
Cafodd Sgyrsiau Creadigol ei ddatblygu gan John Killick, sydd wedi ysgrifennu'n helaeth ar bwnc cyfathrebu a chreadigrwydd mewn dementia, ac mae wedi datblygu sgiliau staff gofal dementia trwy ddefnyddio amrywiaeth o weithgareddau creadigol (barddoniaeth, ffilm, cerddoriaeth, creu celf) er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o bosibiliadau gofal dementia. Ei nod oedd darparu sgiliau cyfathrebu ymarferol i staff er mwyn gwella'r berthynas ofal rhwng staff a phreswylwyr yn eu hymarfer o ddydd i ddydd.
Cymerodd staff gofal o 14 o gartrefi gofal yn Sir y Fflint, Gogledd Cymru ran yn yr astudiaeth. Gwnaethant ganfod bod y dull o ddysgu trwy gyfrwng y celfyddydau yn cryfhau eu dealltwriaeth o'r preswylwyr, gan gynnwys pwysigrwydd cyfathrebu heb eiriau. Rhoddodd yr hyder iddynt roi cynnig ar ddulliau gofal mwy creadigol. Roeddent hefyd yn gwerthfawrogi'r cyfle i adfyfyrio ar eu hymarfer eu hunain ac i ddysgu gan staff o gartrefi eraill.
Dywedodd Dr Katherine Algar-Skaife, a fu'n arwain yr ymchwil, 鈥淢ae'r celfyddydau'n cael eu cydnabod yn gynyddol fel gweithgareddau pwysig a buddiol i bobl sy'n byw gyda dementia. Yn y project hwn rydym wedi dangos y gall dysgu trwy gyfrwng y celfyddydau hefyd wella sgiliau staff gofal dementia a'u galluogi i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o'r preswylwyr y maent yn gofalu amdanynt.鈥
Dywedodd Luke Pickering-Jones, a fu'n cydweithio ar y project ar ran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint, 鈥淩hoddodd y project hwn y cyfle i Wasanaethau Cymdeithasol Sir y Fflint a'u cartrefi gofal ddatblygu eu gweithlu mewn ffordd unigryw ac arloesol. Rydym wedi gweld brwdfrydedd, gallu a thosturi'r cartrefi gofal drwy gydol y project, sydd wedi creu mwy o falchder byth yn Sir y Fflint yn ein cartrefi gofal. Gan adeiladu ar y llwyddiant hwn, rydym erbyn hyn hefyd yn cynnig y sesiynau i ofalwyr teulu鈥.
Mae'r ymchwil, sydd newydd ei chyhoeddi ac wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac Ymddiriedolaeth Wellcome, i'w weld yma, o'r cylchgrawn Aging & Mental Health: .
Dyddiad cyhoeddi: 1 Ebrill 2019