FFIT Cymru yn 么l am ail gyfres 鈥 a Mared yn arwain y ffordd!
Mae un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C y llynedd, FFIT Cymru, yn 么l ar gyfer ail gyfres ym mis Ebrill a bydd ymwneud Prifysgol 亚洲色吧 芒 chynhyrchiad Cwmni Da yn fwy fyth eleni, wedi i un o fyfyrwyr Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd gael ei dewis i fod yn un o 鈥榓rweinwyr鈥 ysbrydoledig y gyfres.
Mae Mared F么n Owen, 20 oed ac yn hanu o Fodedern, yn fyfyrwraig ym mlwyddyn olaf ei gradd yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol a thros gyfnod o saith wythnos, bydd Mared a phedwar arweinydd newydd arall yn mynd ati i drawsnewid eu bywydau drwy golli pwysau a datblygu lefelau newydd o ffitrwydd.
Wrth edrych ymlaen at y gyfres, meddai Mared:
鈥淩wy鈥檔 falch iawn fy mod wedi cael fy nerbyn i fod yn rhan o ail gyfres FFIT Cymru. Mae鈥檔 fraint fy mod i wedi cael fy newis o blith yr holl ymgeiswyr ac, yn sicr, efo鈥檙 holl gefnogaeth rwyf wedi ei derbyn yn barod, does dim amheuaeth na fydda i鈥檔 cyrraedd y nod!鈥
Gan ffurfioli鈥檙 berthynas a ddatblygwyd ar gyfer y gyfres gyntaf y llynedd, mae鈥檙 Brifysgol yn un o 鈥榖artneriaid鈥 y gyfres unwaith eto eleni, gan ymuno 芒 chriw dethol o gyrff a sefydliadau megis Llywodraeth Cymru, Sustrans, Cymdeithas B锚l-droed Cymru, Vitality Parkrun ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae鈥檙 Brifysgol wedi rhannu ei chyfleusterau chwaraeon a鈥檌 harbenigeddau ym maes gwyddorau chwaraeon 芒鈥檙 cynhyrchiad eto eleni.
Cyn dewis y pum arweinydd terfynol, daeth carfan o ymgeiswyr i ganolfan chwaraeon y Brifysgol, Canolfan Brailsford, i gael eu hasesu gan arbenigwyr y gyfres, sy鈥檔 cynnwys y dietegydd, Sioned Quirke, y seicolegydd, Dr Ioan Rees a鈥檙 arbenigydd ffitrwydd, Rae Carpenter 鈥 a鈥檙 cyfan dan lywyddiaeth y cyflwynydd, Lisa Gwilym. Yna, wedi dewis y pum arweinydd, byddwn yn eu gweld yn cael eu hasesu gan Tomos Jones, myfyriwr PhD yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer y Brifysgol. Bydd y profion yn cael eu cynnal yn labordai PAWB yr Ysgol, sy鈥檔 cynnwys offer arbenigol ar gyfer mesur iechyd a ffitrwydd. Bydd y profion hyn yn cael eu hailadrodd ar ddiwedd y gyfres er mwyn gweld a yw鈥檙 pum arweinydd wedi llwyddo i drawsnewid eu bywydau am y gorau.
Mae鈥檙 gyfres yn dilyn fformat rhaglen Transformation Nation, sydd bellach ar ei deuddegfed cyfres ar sianel RT脡 yn Iwerddon a bydd FFIT Cymru yn annog gwylwyr i fynd ati i drawsnewid eu bywydau hwythau drwy ddilyn bwydlenni a rhaglenni ffitrwydd arweinwyr y rhaglen.
Wrth drafod y bartneriaeth rhwng y gyfres a Phrifysgol 亚洲色吧, meddai comisiynydd rhaglenni S4C, Sioned Wyn Roberts:
"Mae鈥檙 bartneriaeth rhwng S4C, Cwmni Da a Phrifysgol 亚洲色吧 yn fuddiol iawn i gyfres FFIT Cymru. Mae鈥檙 Brifysgol yn chwarae r么l ganolog yn y gyfres eto eleni, drwy agor eu drysau i鈥檙 arweinwyr ac i鈥檙 camer芒u i ffilmio yno.
"Un elfen hollbwysig yn siwrne'r pum arweinydd yw鈥檙 profion ffitrwydd manwl sy鈥檔 cael eu cynnal yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol 亚洲色吧 ar ddechrau ac ar ddiwedd y gyfres, ac mae hyn yn galluogi ni i fesur cynnydd a llwyddiant ein pump yn ystod eu taith FFIT Cymru."
Ac wrth edrych ymlaen at y gyfres newydd, meddai鈥檙 Athro Graham Upton, Is-ganghellor Dros Dro Prifysgol 亚洲色吧:
鈥淩ydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth 芒 chynhyrchiad FFIT Cymru eto eleni a rhannu rhywfaint o arbenigeddau a chyfleusterau arbennig y Brifysgol 鈥 ac, wrth gwrs, rydym yn dymuno鈥檔 dda i Mared wrth iddi arwain eraill i ddilyn ei hesiampl!鈥
Bydd pennod gyntaf cyfres newydd FFIT Cymru yn cael ei darlledu nos Fawrth, 2 Ebrill ar S4C am 8 o鈥檙 gloch. I wybod mwy am y gyfres, ewch i
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2019