Ffilm Nyrsio Anabledd Dysgu wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Celfyddydau a Busnes Cymru
Mae a gomisiynwyd gan Brifysgol 亚洲色吧 a Phrifysgol De Cymru ac a gynhyrchwyd gan Hijinx wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Celfyddydau a Busnes Cymru yn y categori Celfyddydau, Busnes ac Iechyd.
Ym mis Ionawr 2019, mewn ymateb i'r prinder cenedlaethol o nyrsys Anabledd Dysgu (AD), cyd weithiodd Prifysgol De Cymru a Phrifysgol 亚洲色吧 i gomisiynu Hijinx i greu ffilm ar gyfer hyrwyddo eu cyrsiau Baglor Nyrsio (Anrh) Anabledd Dysgu. Prif nod y prosiect oedd denu ystod eang o ymgeiswyr i'r cyrsiau, a thynnu sylw at fanteision dewis hyfforddi fel nyrs anabledd dysgu.
Yn cynnwys 9 actor Hijinx, mae'r ffilm yn dangos i ddarpar fyfyrwyr yr amrywiaeth o leoliadau y mae Nyrsys Anabledd Dysgu yn gweithio ynddynt, ac yn rhoi llais i'r effaith gadarnhaol y mae eu rolau yn ei chael ar fywydau pobl ag anabledd dysgu a / neu awtistiaeth y maent yn gweithio gyda nhw.
Mae'r ffilm yn gweld actorion Hijinx yn adrodd geiriau aelodau TRAC - Pwyllgor Addysgu, Ymchwil a Chynghori Prifysgol De Cymru sydd i gyd yn gleientiaid sy'n derbyn cefnogaeth gan Nyrsys Anabledd Dysgu, gan fyfyrio ar y cyswllt arbennig sy'n bodoli rhyngddynt.
鈥淩oedd y dull hwn yn caniat谩u i ni bortreadu r么l nyrsio anabledd dysgu o safbwynt yr unigolion sy'n ymgysylltu 芒'r gwasanaeth gan osod yr actorion Hijinx yng nghanol y broses.鈥 meddai Dr Ruth Wyn Williams, Prifysgol 亚洲色吧 鈥測chwanegodd pob un ohonynt at rinweddau unigryw a chynhwysol y prosiect.鈥
Mae dau ar hugain o fusnesau a鈥檜 partneriaid celfyddydol wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau C&B Cymru 2020. Mae鈥檙 seremoni, sydd bellach yn ei 27ain blwyddyn, yn cydnabod creadigrwydd a rhagoriaeth mewn partneriaethau rhwng busnes a鈥檙 celfyddydau.
Mae cwmn茂au o bob maint sydd wedi鈥檜 lleoli ar draws Cymru gyfan yn cystadlu i ennill y gwobrau mawreddog.
Mae鈥檙 rhestr fer lawn ar gael .
Mae'r seremoni wobrwyo rithiol ar Ddydd Gwener, 9 Hydref 2020, 19:30 - 21:30 ac os hoffech chi ymuno, gallwch gofrestru i wylio ffrydio byw'r seremoni .
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2020