Dyfodol disglair ar 么l plentyndod anodd
Mae myfyrwraig a lwyddodd i oresgyn caledi mawr yn ystod ei phlentyndod wedi graddio o Brifysgol 亚洲色吧 gyda gradd mewn Glinigol ac Iechyd.
Daw Louise Brinton sy鈥檔 32 oed o Lerpwl yn wreiddiol, ond mae bellach wedi ymgartrefu yng ngogledd Cymru ac yn gobeithio dilyn gyrfa fel Seicolegydd Clinigol er mwyn helpu pobl eraill.
Pan oedd Louise a鈥檌 brodyr a鈥檌 chwiorydd yn blant roeddent i mewn ac allan o ofal ond pan oedd Louise yn saith oed cawsant eu gadael gan eu mam. Aeth wythnos heibio cyn iddynt gael eu canfod a鈥檜 hachub. Cafodd ddau set o鈥檌 brodyr a鈥檌 chwiorydd eu maethu gyda鈥檌 gilydd ond cafodd Louise ei maethu ar ei phen ei hun.
Wrth s么n am y profiadau hyn meddai Louise: 鈥淐efais amser anodd dros ben - roeddwn yn 鈥榓nystywallt鈥 yn ystod fy arddegau oherwydd yr hyn a ddigwyddodd i mi yn fy mhlentyndod. Gadewais ysgol yn 14 oed ond cyn hynny roeddwn yn ddisgybl distaw ac yn cael canlyniadau eithriadol o dda yn fy ngwaith ysgol. Cefais fy mwlio yn yr ysgol a doedd gen i ddim ffrindiau. Dechreuais gamddefnyddio alcohol a chyffuriau ac roeddwn yn feichiog pan oeddwn yn 15 oed.鈥
鈥淵munais 芒 gr诺p therapi a hynny a newidiodd fy mywyd.鈥
Roedd y penderfyniad i symud i ogledd Cymru hefyd yn un bwysig i Louise.
鈥淐efais amser anodd iawn yn Lerpwl ac roedd symud oddi yno yn gyfle i ailadeiladu fy mywyd. Roedd hynny yn 2010. Ym mis Medi y flwyddyn honno, ar fympwy, penderfynais ymuno 芒鈥檙 cwrs Cyfeiriadau Newydd yng Ngholeg Menai, ac arweiniodd hynny at gwrs mynediad ac yna i Brifysgol 亚洲色吧. Er na ddeuthum i ogledd Cymru yn benodol i fynd i鈥檙 Brifysgol, rwyf mor falch fy mod wedi gwneud hynny. Roeddwn wastad wedi eisiau mynd i brifysgol ond ni chredais erioed y byddwn yn llwyddo.鈥
鈥淣id oeddwn yn medru gofalu am fy mab ond rwyf wedi cadw mewn cysylltiad gydag ef. Mae鈥檔 aros gyda fi a fy mhartner ar hyn o bryd ac roedd yn y seremoni i fy ngweld i鈥檔 graddio.鈥
A hithau wedi graddio bellach, dywedodd Louise: 鈥淩wy鈥檔 methu 芒 chredu fy mod wedi llwyddo o鈥檙 diwedd! Rwy鈥檔 hapus ond hefyd yn drist iawn i adael Prifysgol 亚洲色吧.鈥
Yn 么l Louise roedd yr holl brofiadau yn y brifysgol yn agoriad llygad iddi.
Meddai: 鈥淣id oedd bod yn y brifysgol yn golygu byw bywyd academaidd yn unig. Roedd yn brofiad dysgu cymdeithasol ac yn daith dysgu anhygoel. Roedd yn fraint cael rhannu profiadau gyda phobl rwy鈥檔 credu a fydd yn ffrindiau am oes.鈥
鈥淵r uchafbwyntiau i mi oedd pethau syml fel eistedd o amgylch bwrdd yn yr Ysgol Seicoleg a chael fy nerbyn am fod yn fi fy hun. Nid oedd unrhyw ddisgwyliadau arnaf gan nad oedd neb yn gwybod fy hanes, roeddwn yn rhydd i fod y person yr oeddwn eisiau bod, nid y person yr oedd cymdeithas wedi penderfynu y dylwn i fod.鈥
Mae鈥檔 dweud hyn oherwydd dywedodd meddyg wrthi beth amser yn 么l na fyddai byth yn addas i weithio oherwydd y problemau emosiynol ac iechyd meddwl yr oedd yn eu hwynebu ar y pryd.
Ychwanegodd: 鈥淩wy鈥檔 falch o鈥檙 cyfle i fod yn rhan o adran mor wych. Does dim hierarchaeth yn yr Ysgol Seicoleg; mae鈥檙 darlithwyr a鈥檙 staff eraill yn ein trin yn gyfartal. Mae鈥檙 gefnogaeth fugeiliol hefyd yn wych 鈥 mae鈥檙 ysgol yn haeddu pob canmoliaeth ac rwy鈥檔 credu y dylent gael cydnabyddiaeth am y gwaith gwych y maent yn ei wneud.鈥
Mae Louise eisoes wedi dechrau helpu pobl eraill. Yn ystod ei chyfnod yn y brifysgol roedd yn gwirfoddoli i鈥檙 Samariaid am dros dair blynedd, ac mae hi hefyd wedi gwirfoddoli i Childline.
Mae bellach wedi cael ei derbyn ar gwrs Meistr rhan amser mewn cwnsela mewn coleg addysg bellach lleol a bydd hefyd yn chwilio am waith.
Meddai: 鈥淢ae hyn yn fy nychryn gan nad wyf wedi cael gwaith erioed o鈥檙 blaen. Rwyf hefyd angen cyllid ar gyfer astudio gradd Meistr, neu gael swydd a fydd yn talu digon. Byddwn wrth fy modd cael bod yn seicolegydd clinigol cofrestredig. Rwy鈥檔 gwybod fy mod wedi gorchfygu llawer o broblemau ac ni ddylai neb cael eu gwrthod fel y cefais i.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2015